Neidio i'r prif gynnwy
Tallis Griffiths

Gweithiwr Cymorth Deieteg

Amdanaf i

Gweithiwr Cymorth Deieteg

Helo, Tallis ydw i! Rwy'n gweithio fel Ymarferydd Cynorthwyol Deietegol gyda thîm PIPYN.

Rwy'n dwlu bod fy rôl yn ei gwneud yn bosibl i fi gefnogi plant a theuluoedd i wneud dewisiadau iachach wrth feithrin hyder ynghylch bwyd a maeth. Mae pob diwrnod yn wahanol, ac mae'n fraint bod yn rhan o deithiau pobl.

Y tu allan i'r gwaith rwy'n dwlu ar dreulio amser gyda fy nau gi, rwy'n mwynhau bod yn greadigol boed hynny'n brosiect DIY cartref neu'n gwneud lluniau ac rwy'n dwlu ar fynd am dro ar hyd y traeth. Ar hyn o bryd rwy'n disgwyl fy mabi cyntaf, felly rwy'n mwynhau paratoi ar gyfer mamolaeth, bod yn greadigol gyda phrosiectau meithrinfa a pharatoi popeth ar gyfer dyfodiad fy merch fach!

Dilynwch ni: