Mae'r wybodaeth hon wedi'i chynllunio ar gyfer staff cartrefi gofal i helpu i adnabod yr arwyddion a thrin diffyg maeth ymhlith cleifion mewn cartrefi gofal. Mae'n esbonio sut i gyfrifo'r sgôr MUST, sut i atgyfeirio at y Tîm Deieteg, yn cynnig awgrymiadau ar fwyd yn gyntaf a chryfhau bwyd, yn rhoi enghreifftiau o siartiau bwyd a hylif, yn darparu gwybodaeth benodol i gleifion â dementia ac mae ganddo wybodaeth ddefnyddiol am faeth a briwiau pwyso.
Mae bwyta'n dda yn bwysig i'n lles, ond mae'n rhywbeth y mae llawer yn ei anwybyddu pan fyddan nhw mewn cyflwr o iechyd da, oherwydd i'r rhan fwyaf mae'n teimlo fel rhan arferol a chyffredin o'n diwrnod. Mae'r swm y dylem ei fwyta a'i yfed yn edrych yn wahanol i bawb, a gall cyflawni hyn fod yn anoddach i rai unigolion nag ydyw i eraill. Mae nifer o fanteision i gyflawni cymeriant maeth da, a gall y rhain gynnwys:
Cofiwch, wrth i ni heneiddio, efallai na fydd ein chwantau yr un fath ag yr oedden nhw ar un adeg, ond mae maeth yn parhau i fod yr un mor bwysig i gyflawni'r manteision iechyd uchod. Efallai y bydd gan y preswylwyr yr ydych yn gofalu amdanyn nhw anghenion gwahanol ac mae angen lefelau gwahanol o fewnbwn arnyn nhw i sicrhau y gallwn nhw gael yr ansawdd bywyd gorau posibl. Bydd y pecyn cymorth hwn yn rhoi gwybodaeth i chi am sut i helpu'ch preswylwyr, beth y gallwch ei weithredu i wella eu cymeriant maeth a'u hiechyd.
Safonau Llywodraeth Cymru - Canllawiau Bwyd a Maeth ar gyfer Pobl Hŷn mewn Cartrefi Gofal:
Sut i gyfrifo MUST:
Llwybr Diffyg Maeth gan gynnwys cyngor ar sut i drin Diffyg Maeth:
Awgrymiadau ar gyfer gweithredu’r Llwybr Diffyg Maeth mewn Cartrefi Gofal:
Bwyd yn Gyntaf a Chryfhau Bwyd:
Dementia a Maeth:
Hydradu:
Briwiau pwyso a maeth:
Adnodd Maeth Person Hŷn:
British Dietetic Association Care Home Digest:
Sut i atgyfeirio at y Tîm Ddeieteg:
Ar gyfer pob Cartref Nyrsio ac ar gyfer Cartrefi Preswyl y tu allan i Ben-y-bont ar Ogwr:
Cwblhewch y Ffurflen Atgyfeirio drwy'r ddolen ganlynol: Ffurflen Atgyfeirio Cartref Nyrsio ac e-bostiwch CTM.Dietetic.Carehomereferrals@wales.nhs.uk
Cartrefi Preswyl ym Mhen-y-bont ar Ogwr:
Ar gyfer Atgyfeiriadau MDT Dysffagia:
Hyfforddiant BAPEN MUST: