Beth yw Tinitws?
Mae tinitws yw canfyddiad sain yn absenoldeb ffynhonnell sain allanol (McKenna et al., 2017). Mae tinitws yn unigryw i'r unigolyn, ond efallai y byddwch chi'n clywed synau fel suo, canu, gwichian, neu gerddoriaeth.
Beth sy'n achosi Tinitws?
Mae tinitws yn gyffredin iawn ac mae’n cael ei adrodd ym mhob grŵp oedran, hyd yn oed plant ifanc. Bydd tua 30% o bobl yn profi tinitws ar ryw adeg yn eu bywydau, a bydd 1/7 unigolyn yn byw gyda tinitws parhaus (Tinnitus UK, 2024).
Er nad yw union achos tinitws yn hysbys, mae ymchwil wedi dangos ei fod yn gysylltiedig yn fwy cyffredin â cholli clyw neu broblemau clust eraill, rhai meddyginiaethau, a straen a gorbryder (NICE, 2023).