Mae’r wybodaeth ganlynol yn ymwneud â thymor COVID-19 2025-26.
Gweithwyr BIPCTM: ewch i'n tudalen brechu pwrpasol ar gyfer staff.
Diweddarwyd: 17 Hydref 2025
Bob blwyddyn yng Nghymru, mae tua miliwn o bobl yn cael eu brechlyn ffliw. Mae hynny'n fwy nag un o bob pedwar person.
Mae'r ffliw yn fwy tebygol o fod yn ddifrifol os oes cyflwr iechyd hirdymor gyda chi, neu os ydych chi’n feichiog neu'n hŷn.
Gall ffliw fod yn ddifrifol i blant ifanc hefyd.
Gall y ffliw fod yn ddifrifol iawn. Mae'n cael ei achosi gan feirws, sy'n cael ei ledaenu gan beswch a thisian. Gall symptomau ffliw fod yn ysgafn ond gall hefyd arwain at afiechydon mwy difrifol fel broncitis a niwmonia (heintiau ar yr ysgyfaint), a all fod angen triniaeth yn yr ysbyty.
Mae ffliw yn heintus iawn, a gall symptomau ymddangos yn gyflym iawn. Mae symptomau ffliw yn cynnwys tymheredd uchel, blinder a gwendid, cur pen, poenau a pheswch. Mae rhagor o wybodaeth am y ffliw ar gael ar wefan GIG 111 Cymru.
Mae achosion o ffliw y rhan fwyaf o aeafau, yn enwedig mewn ysbytai a chartrefi gofal.
Mewn gaeaf arferol, bydd miloedd o bobl yn marw o salwch sy'n gysylltiedig â ffliw yn y DU. Cael brechlyn ffliw bob blwyddyn yw un o’r ffyrdd gorau o amddiffyn rhag y ffliw. Mae’n bwysig iawn cael eich brechlyn ffliw bob blwyddyn os ydych chi’n gymwys.
Mae brechlynnau ffliw yn gyflym ac yn ddiogel iawn a gallent atal wythnosau o salwch difrifol.
Gwrandewch ar Rhianydd Davey, Cydlynydd Imiwneiddio, ar radio GTFM yn rhannu mewnwelediadau arbenigol ar bwysigrwydd y brechlyn ffliw a sut mae'n helpu i amddiffyn ein cymunedau y gaeaf hwn. (25:15 ymlaen). Hefyd, gallwch glywed gwybodaeth am y brechiadau COVID-19 ac RSV a phwy ddylai gael y brechiadau hyn.
Dylech chi gael y brechlyn ffliw os ydych chi:
yn feichiog
yn 65 oed neu hŷn (neu'n troi'n 65 cyn diwedd y rhaglen brechu ffliw – fel arfer ym mis Mawrth bob blwyddyn), neu
rhwng chwe mis a 64 oed gyda chyflwr iechyd hirdymor, gan gynnwys:
problem gyda'r galon
clefyd yr arennau (o gam 3)
clefyd yr afu
cyflyrau nerfau, fel clefyd Parkinson neu glefyd niwronau echddygol
anabledd dysgu
salwch meddwl difrifol
diabetes
epilepsi
system imiwnedd wan oherwydd salwch neu driniaeth
diffyg dueg neu broblem gyda'ch dueg, neu
bod dros bwysau yn ddifrifol (mynegai màs y corff (BMI) o 40 neu fwy ac yn 16 oed neu'n hŷn).
Dylai'r bobl ganlynol hefyd gael y brechlyn ffliw i helpu i amddiffyn eu hunain a'r rhai o'u cwmpas.
Pobl sy'n byw mewn cartref gofal
Pobl sy'n gweithio'n uniongyrchol gyda chleifion neu gleientiaid ym maes iechyd neu ofal cymdeithasol
Pobl ddigartref
Gweithwyr dofednod sydd mewn perygl uchel
Plant dwy a thair oed (oedran ar 31 Awst)
Plant oedran ysgol a phobl ifanc o'r dosbarth derbyn i flwyddyn 11
Gofalwyr
Ymatebwyr cyntaf ac aelodau o sefydliadau gwirfoddol sy'n darparu cymorth cyntaf brys wedi'i gynllunio
Unigolion sy'n byw gyda rhywun sydd â system imiwnedd wan
Bydd y rhan fwyaf o blant a phobl ifanc yn cael eu brechlyn yn gyflym a di-boen drwy chwistrell trwyn. Bydd anwedd ysgafn yn cael ei chwistrellu i fyny’r trwyn, trwy’r ddwy ffroen. Y brechlyn chwistrell trwyn yw'r brechlyn ffliw a argymhellir ar gyfer y rhan fwyaf o blant a phobl ifanc o ddwy oed ymlaen.
Os yw eich plentyn yn gymwys i gael brechlyn ffliw, dylai’r practis meddyg teulu neu’r nyrs ysgol gysylltu â chi. Os ydych chi'n meddwl y gallai eich plentyn fod wedi methu ei frechlyn, cysylltwch â’r nyrs ysgol os yw o oedran ysgol neu’r â’r practis meddyg teulu os nad yw yn yr ysgol.
Os ydych chi'n meddwl y gallech fod wedi methu eich gwahoddiad i gael brechlyn ffliw, cysylltwch â'ch meddyg teulu neu eich fferyllfa leol.
Mae'r tabl isod yn dangos pwy all gael y brechlyn ffliw a ble y gallwch ei gael.
|
Plant dwy neu dair oed (ar 31 Awst 2025) |
Meddygfa teulu (mewn rhai ardaloedd, cynigir y brechlyn i blant tair oed yn y feithrinfa) - gweler y tabl isod. |
|
Plant ysgol gynradd ac ysgol uwchradd |
Yn yr ysgol. Gweld amserlen ein rhaglen frechu ysgolion: Rhaglen Frechu gan Nyrsys Ysgol Bydd rhaglen dal i fyny yn rhedeg dros wyliau'r ysgol Nadolig i blant a fethodd eu brechiad ffliw yn yr ysgol. Bydd plant yn cael eu gwahodd i fynychu un o'n chwe Chanolfan Brechu Cymunedol i gael brechiad.
|
|
Plant pedair oed neu hŷn nad ydynt yn yr ysgol |
Practis meddyg teulu (bydd angen i chi wneud apwyntiad) - gweler y tabl isod. |
|
Plant rhwng chwe mis a 17 oed sydd â chyflwr iechyd hirdymor |
Practis meddyg teulu (bydd y brechlyn ffliw yn cael ei gynnig yn yr ysgol i blant oedran ysgol) |
|
Merched beichiog |
Practis meddyg teulu, rhai fferyllfeydd lleol, neu gan eich bydwraig (mewn rhai ardaloedd yng Nghymru) |
|
Oedolion â chyflwr iechyd hirdymor |
Practis meddyg teulu neu eich fferyllfa leol |
|
Pobl 65 oed neu hŷn |
Practis meddyg teulu neu eich fferyllfa leol |
|
Gofalwyr di-dâl |
Practis meddyg teulu neu eich fferyllfa leol |
|
Gofalwyr yn y cartref (y rhai sy'n darparu gofal yng nghartrefi pobl) |
Fferyllfa leol (mae trefniadau eraill mewn rhai ardaloedd) |
|
Staff cartrefi gofal |
Fferyllfa leol (mae trefniadau eraill mewn rhai ardaloedd) |
|
Gweithiwyr Iechyd a Gofal Cymdeithasol |
Drwy eich cyflogwr neu yn eich practis meddyg teulu |
|
Gweithwyr dofednod sy’n wynebu’r risg fwyaf |
Fferyllfa leol |
Bydd y brechlyn ffliw yn cael ei gyflwyno ar draws CTM gan nyrsys ysgol a meddygon teulu fel a ganlyn:
|
|||||||||||||||||||||||||||||
Yn ddelfrydol, dylid rhoi'r brechlyn ffliw cyn i'r ffliw ddechrau lledaenu. Fodd bynnag, gellir ei roi ar ddyddiad yn ddiweddarach hefyd.