Neidio i'r prif gynnwy

FAQ

Dydy'r cynnwys hwn ddim ar gael yn Gymraeg yn anffodus. Gweler y fersiwn Saesneg.
20/12/24
Beth ddylwn i ei wneud os ydw i'n profi symptomau strôc?

Peidiwch ag oedi. Gweithredwch.

Mae cael strôc yn argyfwng meddygol difrifol sy'n gofyn am asesiad ar unwaith a thriniaeth frys. Mae dechrau triniaeth yn gyflym yn allweddol i ganlyniadau strôc gwell.

Os ydych yn amau eich bod chi neu rywun arall yn cael strôc, ffoniwch 999 ar unwaith a gofynnwch am ambiwlans.

Os ydych yn amau strôc ac yn mynd i'ch Adran Argyfwng leol, bydd unrhyw un o'n tair Hadran Argyfwng yn gallu eich asesu a darparu triniaeth feddygol frys (lle bo angen) i sefydlogi'ch strôc, cyn eich trosglwyddo i'r uned strôc.

20/12/24
Sut ydw i'n adnabod symptomau strôc?
20/12/24
Os byddaf yn cael strôc, lle byddaf yn cael fy nhrin?

Os ydych chi, neu rywun annwyl, yn profi symptomau strôc, dylech bob amser alw am ambiwlans yn y lle cyntaf.

Os byddwch yn mynd i'ch ysbyty lleol, bydd ein holl Adrannau Achosion Brys yn gallu eich asesu a darparu triniaeth feddygol frys (pan fo angen) i sefydlogi eich strôc.

20/12/24
Pam mae gofal strôc yn newid yng Nghwm Taf Morgannwg?

Rydym am ddarparu gwasanaeth diogel a chynaliadwy a all barhau i achub bywydau a lleihau effeithiau dinistriol strôc i gynifer o gleifion â phosibl.

Mae'r cam yn cael ei gymryd wrth i'r bwrdd iechyd reoli prinder difrifol o staff meddygol arbenigol gyda'r hyfforddiant, y sgiliau a'r profiad i ofalu am gleifion sy'n dioddef o strôc yn ddiogel.

Drwy symud i un uned strôc acíwt byddwn yn gwneud y defnydd gorau o'n gweithlu strôc medrus ac arbenigol iawn, a gallwn sicrhau gwasanaeth strôc diogel ac effeithiol i'n poblogaeth.

Bydd hyn yn ein helpu i:

  • Cynnal gwasanaeth diogel a chynaliadwy i gleifion strôc;
  • Achub bywydau a lleihau effeithiau dinistriol strôc;
  • Rhoi mynediad i'n cleifion i dîm ymroddedig o arbenigwyr strôc os oes eu hangen arnynt.

Os ydych yn amau strôc ac yn mynd i'ch Adran Argyfwng leol, bydd unrhyw un o'n tair Adran Argyfwng yn gallu eich asesu a darparu triniaeth feddygol frys lle bo angen i sefydlogi eich strôc, cyn eich trosglwyddo.

20/12/24
Ydy'r newid hwn yn ddiogel?

Rydym yn cydnabod y bydd y newid angenrheidiol hwn yn peri pryder i rai. Fodd bynnag, mae'n rhaid i ni wneud newidiadau lleol ar unwaith i'r ffordd y darperir gwasanaethau os ydym am gynnal gwasanaeth diogel a all barhau i achub bywydau a lleihau effeithiau dinistriol strôc i gynifer o gleifion â phosibl. Heb wneud y newidiadau hyn, ni fydd yn bosibl i'n staff barhau i ddarparu'r gwasanaeth hanfodol hwn i gleifion.

Dilynwch ni: