Neidio i'r prif gynnwy

Brechlyn RSV ar gyfer oedolion hŷn

Mewn oedolion hŷn, gall RSV achosi problemau anadlu difrifol, yn enwedig yn y rhai sy’n fregus neu sydd â chyflyrau iechyd eraill. I nifer fach o bobl sydd mewn perygl o glefyd anadlol mwy difrifol, gallai haint RSV achosi niwmonia (haint yr ysgyfaint) neu farwolaeth hyd yn oed.

Yw'r brechlyn RSV yn ddiogel i oedolion hŷn? 

Mae pob meddyginiaeth (gan gynnwys brechlynnau) yn cael ei phrofi am ddiogelwch ac effeithiolrwydd cyn caniatáu iddi gael ei defnyddio. Unwaith maen nhw'n cael eu defnyddio, mae'r Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA) yn parhau i fonitro eu diogelwch. 

Mae'r brechlyn RSV wedi pasio safonau diogelwch llym i'w ddefnyddio yn y DU, a gwelwyd ei fod yn ddiogel iawn. Fel pob brechlyn, mae unrhyw adroddiadau am sgil-effeithiau’n cael eu monitro a'u hadolygu'n ofalus. 

Darllenwch fwy am y rhaglen frechu RSV ar gyfer oedolion hŷn ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Dilynwch ni: