Mae RSV yn gallu achosi i fabanod newydd-anedig a phlant bach fynd yn sâl iawn.
Gall babanod ddatblygu problemau difrifol ar yr ysgyfaint, fel bronciolitis (chwyddo llwybrau anadlu bach yr ysgyfaint) a niwmonia (chwyddo codennau aer yr ysgyfaint). Efallai y bydd angen i fabanod sydd â bronciolitis neu niwmonia fynd i'r ysbyty i'w helpu i wella.
RSV yw'r achos mwyaf cyffredin o bronciolitis mewn babanod. Gall bronciolitis ei gwneud hi'n anodd i blant bach anadlu, yn enwedig:
babanod wedi’u geni’n gynnar (35 wythnos neu'n gynharach)
babanod sydd â rhai problemau gyda'r galon neu'r ysgyfaint, neu
fabanod sydd â phroblemau difrifol gyda'u systemau imiwnedd.
Sut mae cael eich brechu yn ystod beichiogrwydd yn amddiffyn y baban?
Bydd yr amddiffyniad a gewch o'r brechlyn yn cael ei drosglwyddo i'ch babi drwy'r brych. Mae'r brych y tu mewn i'ch croth ac yn cysylltu'ch cyflenwad gwaed â'ch babi heb ei eni.
Bydd y brechlyn yn helpu i amddiffyn eich babi yn ystod misoedd cyntaf ei fywyd pan fydd fwyaf agored i niwed.
Hefyd, mae'r brechlyn yn helpu i atal menywod beichiog rhag cael RSV ac yn lleihau'r risg o’i drosglwyddo i'w babi.
Y rhaglen feirws syncytiol anadlol (RSV) i fenywod beichiog er mwyn amddiffyn babanod
Mae pob meddyginiaeth (gan gynnwys brechlynnau) yn cael ei phrofi am ddiogelwch ac effeithiolrwydd cyn caniatáu iddi gael ei defnyddio. Unwaith maen nhw'n cael eu defnyddio, mae'r Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA) yn parhau i fonitro eu diogelwch.
Does dim tystiolaeth i ddangos bod y brechlyn hwn yn beryglus i'ch beichiogrwydd. Nid yw'r brechlyn RSV yn frechlyn byw, felly ni all achosi RSV mewn menywod na'u babanod. Y brechlyn RSV yw'r ffordd fwyaf diogel a mwyaf effeithiol o helpu i amddiffyn eich babi heb ei eni rhag RSV.
Y rhaglen feirws syncytiol anadlol (RSV) i fenywod beichiog er mwyn amddiffyn babanod