 
				
			
			Mae brechu yn un o’r pethau pwysicaf y gallwn ei wneud i amddiffyn ein hunain, a’n gilydd rhag iechyd gwael, ac i’n cadw ni i fyw yn iach.
Mae’n bwysig ein bod ni’n cael ein himiwneiddio’n llawn i’n hamddiffyn rhag clefydau a allai fod yn ddifrifol, ac i roi’r dechrau gorau mewn bywyd i’n plant.
Defnyddiwch y tudalennau hyn i ddysgu mwy am gael eich brechu ac imiwneiddiadau ar gyfer pob grŵp oedran.
Mae'r amserlen sy'n dangos pa imiwneiddiadau sy'n cael eu cynnig fel mater o drefn yng Nghymru ar gael o wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am tan 5pm
01685 726464
ctm.vaccinationenquiries@wales.nhs.uk
Mae’r llinell ffôn trefnu apwyntiad (trwy 01685 726464) ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, 9am – 5pm.