Neidio i'r prif gynnwy

Optegwyr

Mae practisiau Optometreg wedi gallu cynyddu eu darpariaeth o wasanaethau ers mis Mehefin, ac maen nhw wedi ailgychwyn rhai triniaethau i’r cleifion mwyaf anghenus. Bydd gwasanaethau eraill yn cael eu hailgychwyn yn raddol. Bydd y rhai sydd wedi dioddef o broblemau difrifol yn ystod y pandemig, a’r rhai sydd gydag anghenion gofal brys, yn cael eu blaenoriaethu wrth i bractisiau ddechrau cynnig gwasanaeth arferol eto. 

Dod o hyd i Ofal Llygaid 

Peidiwch â disgwyl i’ch ymweliad â’ch optegydd fod yn debyg i sut oedd cyn y pandemig. Oherwydd yr angen i gadw pellter cymdeithasol a rheoli heintiau, bydd gwasanaethau practisiau’n gyfyngedig iawn, iawn ar hyn o bryd. 

Bydd mesurau cadw pellter cymdeithasol a rheoli heintiau’n amrywio rhwng practisiau. Dilynwch gyngor y practis wrth ymweld.  

Peidiwch ag ymweld â phractis Optometreg os oes gyda chi, neu unrhyw un sy’n byw gyda chi, symptomau o’r Coronafeirws. 

Dilynwch ni: