Neidio i'r prif gynnwy

Call for Concern

 

Mynegi Call for Concern

Diweddarwyd ddiwethaf: 17eg Gorffennaf 2026

Ydy eich cyflwr chi, neu gyflwr rhywun annwyl, yn gwaethygu?

Dywedwch wrth nyrs neu feddyg ar y ward.

Ydych chi'n dal yn poeni amdanoch chi'ch hun neu rywun annwyl?

Os oes gennych bryderon o hyd ar ôl siarad â staff y ward, yna mae'n bryd gwneud Call for Concern.

Beth yw Call for Concern?

Mae Call for Concern yn wasanaeth sy'n cefnogi cleifion, eu teuluoedd a'u gofalwyr i alw am gymorth brys os ydyn nhw'n teimlo nad yw eu pryderon wedi cael sylw gan staff ar y ward.

Sut ydw i'n cael mynediad at Call for Concern?

Ffoniwch 01443 443443 a gofynnwch am ‘Adult Call for Concern’ a nodwch yr ysbyty rydych chi ynddo. Byddwch yn cael eich trosglwyddo i’r Tîm Allgymorth Gofal Critigol. Bydd aelod o'n tîm yn dechrau trwy ofyn rhai cwestiynau i chi dros y ffôn.

Yna falle bydd yn ymweld â chi neu'ch anwylyd ar y ward i gynnal asesiad ac adolygu eich cyflwr.

Bydd y tîm yn gweithio'n agos gyda gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill i sicrhau eich bod yn derbyn y gofal gorau posibl.

Pam ddefnyddio Call for Concern?

Chi sy'n adnabod eich hun a'ch anwyliaid orau.

Os ydych chi'n teimlo bod eich cyflwr corfforol, neu gyflwr anwylyd, yn gwaethygu tra byddwch chi yn yr ysbyty, rydyn ni eisiau i chi siarad â ni.

Mae'r gwasanaeth Call for Concern yn caniatáu i chi uwchgyfeirio eich pryderon am berson a allai fod yn dirywio'n gorfforol (pan fydd ei gyflwr yn gwaethygu). Mae yno i chi os ydych chi'n teimlo nad oes unrhyw un ar y ward yn gwrando arnoch chi.

Ydy Call for Concern ar gael ym mhobman?

Ar hyn o bryd, dim ond i gleifion ar wardiau oedolion mewnol yn Ysbyty'r Tywysog Siarl, Ysbyty Tywysoges Cymru ac Ysbyty Brenhinol Morgannwg y mae'r gwasanaeth ar gael.

Byddwn yn parhau i ddiweddaru'r dudalen hon wrth iddi ddod ar gael mewn mwy o ardaloedd.

0:00

0 seconds

A new service is being introduced to support the early identification and prevention of harm from acute deterioration. This is called call for

0:08

8 seconds

concern. It's being trled in all adult inpatient wards across our three main hospitals. Prince Charles Rogan and Princess of Wales Hospital.

0:30

30 seconds

Call for concern.

0:41

41 seconds

Clavono

0:54

54 seconds

staff

1:03

1 minute, 3 seconds

same better worse nay unable news to o wife save worse

1:20

1 minute, 20 seconds

and I'm call for concern.

1:44

1 minute, 44 seconds

call for concern. He denied and normal

1:52

1 minute, 52 seconds

call for concern. Trif Switch. A team of Switzer

2:27

2 minutes, 27 seconds

My call for concern for concern.

 
Dilynwch ni: