Neidio i'r prif gynnwy

Cwestiynau Cyffredin ynghylch Profion COVID-19

31/03/22
Beth yw profion llif unffordd?

Mae prawf llif unffordd (neu LFT neu LFD hefyd) yn fath o brawf am COVID-19. I wneud y prawf, bydd angen defnyddio swab i gymryd sampl, fel arfer o'ch trwyn, er mwyn canfod a oes COVID-19 gyda chi. Mae modd eu gwneud nhw ar eich pen eich hun neu mae modd i berson arall, fel gweithiwr meddygol proffesiynol, ei wneud.

Fel arfer, bydd y canlyniadau ar gael ymhen llai na 30 munud.

31/03/22
Pryd y dylwn i gael prawf llif unffordd?

Dylech chi ddefnyddio profion llif unffordd pan fydd symptomau COVID-19 gyda chi.

Yn gyffredinol cyn mis Ebrill 2022, roedd pobl heb symptomau’n gwneud profion llif unffordd. Cafodd hyn ei newid ym mis Mawrth, ac erbyn hyn dydy profion llif unffordd ddim ar gael at y diben hwn, ac eithrio mewn rhai achosion (ar gyfer staff gofal iechyd, mewn rhai lleoliadau addysgol, ac ati).

31/03/22
Ydw i'n gallu mynd i gael prawf PCR?

Ar ôl 31 Mawrth 2022, fydd dim modd i’r cyhoedd gael profion PCR ar gyfer COVID-19. Yn lle hynny, dylech chi ddefnyddio prawf llif unffordd os oes symptomau gyda chi.

Mae profion PCR yn dal i fod ar gael ar gyfer grwpiau penodol, fel staff iechyd a gofal cymdeithasol neu gleifion mewnol mewn ysbytai.

31/03/22
Sut mae modd cael profion llif unffordd?

Dim ond os oes symptomau COVID-19 gyda chi y bydd modd archebu profion llif unffordd, oni bai bod gweithiwr meddygol proffesiynol wedi dweud y dylech chi gymryd prawf.

Mae modd archebu profion ar-lein trwy glicio yma. Os na fydd modd i chi archebu ar-lein, gallwch chi ffonio 119 am ddim rhwng 7am ac 11pm i archebu.

Bydd profion llif unffordd bob amser yn rhad ac am ddim os oes symptomau gyda chi. Fodd bynnag, os oes angen i chi brofi eich bod wedi cael prawf negatif er mwyn teithio dramor, bydd rhaid i chi dalu darparwr preifat am hyn.

31/03/22
Beth ddylwn i ei wneud os bydda i'n cael canlyniad positif?

Erbyn hyn, does dim rhaid i chi hunan-ynysu os byddwch chi’n cael canlyniad positif, yn ôl y gyfraith. Fodd bynnag, byddem ni’n argymell yn gryf eich bod chi’n parhau i hunan-ynysu er mwyn diogelu’r bobl o'ch cwmpas.

Dylech chi hunan-ynysu am o leiaf 5 diwrnod llawn ar ôl diwrnod eich canlyniad positif. Dylech chi gael dau brawf llif unffordd negyddol 24 awr ar wahân (fel arfer ar ddiwrnod 5 a 6 o’r cyfnod hunan-ynysu), er mwyn rhoi’r gorau i hunan-ynysu ar ôl 5 diwrnod. Os bydd y naill brawf neu’r llall yn bositif, dylech chi barhau i hunan-ynysu nes eich bod chi’n cael dau brawf negatif 24 awr ar wahân, neu nes bydd 10 diwrnod wedi mynd heibio (pa un bynnag sy’n digwydd yn gyntaf).

31/03/22
Beth ddylwn i ei wneud gyda fy nghanlyniad? Oes rhaid i mi ei gofnodi ar-lein?

Dylech chi gofnodi canlyniad pob prawf llif unffordd rydych chi’n eu cymryd, boed y canlyniad yn bositif neu'n negatif. Mae hyn yn bwysig gan ei fod yn rhoi darlun cliriach i dimau iechyd y cyhoedd o ran ble mae COVID-19 yn lledaenu ac yn helpu i reoli gwasanaethau’n briodol.

Y ffordd hawsaf o gofrestru eich canlyniadau yw ar-lein trwy glicio yma, lle gallwch chi greu cyfrif i gyflymu'r broses. Os na fyddwch chi’n gallu cofnodi eich canlyniadau ar-lein, gallwch chi wneud hynny hefyd drwy ffonio 119.

Dilynwch ni: