Neidio i'r prif gynnwy

Cofrestr Buddiannau, Rhoddion, Lletygarwch a Nawdd

Polisi Fframwaith Safonau Ymddygiad

Diben y Polisi hwn yw nodi ymrwymiad Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (BIP CTM) i sicrhau bod ei Gyflogeion ac Aelodau Annibynnol y Bwrdd yn ymarfer y safonau ymddygiad uchaf. Mae'r polisi hwn yn nodi'r disgwyliadau hynny ac yn darparu canllawiau ategol fel bod pob cyflogai ac Aelod Annibynnol o'r Bwrdd yn cael ei gefnogi i gyflawni'r gofyniad hwnnw. Mae'r Polisi ar gael yma: Fframwaith Safonau Ymddygiad

Datganiadau o Fuddiannau

Bydd y Prif Weithredwr, trwy’r Cyfarwyddwr Llywodraethiant Corfforaethol (Ysgrifennydd y Bwrdd) yn sicrhau bod Cofrestr Buddiannau yn cael ei sefydlu a’i chynnal er mwyn cadw cofnod ffurfiol o’r holl fuddiannau sydd wedi eu datgan gan bob Aelod o'r Bwrdd. Bydd y gofrestr yn cynnwys manylion yr holl swyddi Cyfarwyddwyr a’r buddiannau perthnasol eraill sydd wedi cael eu datgan gan Aelodau o’r Bwrdd.

Mae Datganiadau o Fuddiannau Aelodau'r Bwrdd ar gael yma ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol: Datganiadau Aelodau Bwrdd BIP CTM

Mae’r gofrestr lawn yn cael ei chadw gan Ysgrifennydd y Bwrdd, ac mae’n cael ei diweddaru yn ystod y flwyddyn, fel y bo’n briodol, er mwyn cofnodi unrhyw fuddiannau newydd neu newidiadau i’r buddiannau sydd wedi eu datgan gan Aelodau o’r Bwrdd. Os hoffech chi gael copi o’r gofrestr ddiweddaraf, anfonwch e-bost atom yn: CTM_Corporate_Governance@wales.nhs.uk neu ewch i bapurau'r Pwyllgor Archwilio a Risg sydd ar gael yma: Pwyllgor Archwilio a Risg Mae buddiannau Aelodau o’r Bwrdd yn cael eu cofnodi hefyd yn yr Adroddiad Blynyddol.