Neidio i'r prif gynnwy

Dweud Eich Dweud

Ym mis Tachwedd 2021 lansiwyd ein Harolwg 'Dweud Eich Dweud'.

Yn dilyn nifer o ymatebion gwych rydym wedi cadw'r arolwg ar agor fel bod pobl ar draws CTM bob amser yn cael cyfle i roi adborth ar y pethau sy'n bwysig iddynt o ran eu hiechyd a'u lles.

Gallwch gwblhau'r arolwg dienw trwy glicio yma , neu sganio'r cod QR isod.

Beth mae’r ymatebion wedi’i ddweud wrthym hyd yn hyn?

Isod rydym yn rhannu rhai o’r themâu cyffredin o’r ymatebion a gawsom hyd yma.

Mae gan y themâu hyn gysylltiad cryf â’r pedwar nod strategaeth sydd wrth wraidd ein hymagwedd at Adeiladu Cymunedau Iachach Gyda’n Gilydd ac wrth ymyl pob thema rydym wedi rhannu dyfyniad yn uniongyrchol gan ymatebwyr ein harolwg i ddangos pa mor bwysig y gall eich llais chi ei chwarae wrth ein helpu ni i lywio dyfodol CTM2030.

 

Adborth CTM2030 Hyd yn hyn

Cyfarfod Rhwydwaith Arweinwyr CTM2030 (Medi 9)