Neidio i'r prif gynnwy

Gweithgaredd Cymunedol

Mae mynd â‘r sgwrs ynglŷn â CTM2030 allan i'r gymuned, yn y mannau sydd bwysicaf i chi, wedi bod yn nod allweddol i ni bob amser er mwyn cyd-greu cymunedau iachach.

Ar ôl gweithio mewn partneriaeth i osod ein nodau, rydyn ni’n mynd â'r sgwrs yn ôl allan i'n cymunedau ledled CTM er mwyn ceisio penderfynu sut byddwn ni’n cyflawni hyn mewn cydweithrediad â'r bobl, y gwasanaethau a’r prosiectau sy'n gwneud gwahaniaeth yn lleol. 

Isod mae rhai o'n gweithgareddau cymunedol diweddaraf...

Dyma rai o'r ffyrdd rydyn ni wedi gweithio gyda'n partneriaid cymunedol i gynnal sgyrsiau lleol ynglŷn â blaenoriaethau lleol fydd yn gwneud gwahaniaeth i bobl leol. 

Rydyn ni am glywed eich syniadau ar gyfer parhau â'r sgwrs hon yn eich ardal chi, boed hynny yn weithio gyda ni i gynnal digwyddiad tebyg i'r rhai uchod, neu ddod o hyd i ffordd newydd o gynnal y sgyrsiau hyn sy'n berthnasol i'ch cymuned. 

Os yw hyn yn swnio fel rhywbeth y byddai gyda chi a'ch sefydliad neu grŵp ddiddordeb ynddo, e-bostiwch ni ar CTM2030.OurHealthOurFuture@wales.nhs.uk