Neidio i'r prif gynnwy

CTM 2030: Ein Hiechyd, Ein Dyfodol – Dweud Eich Dweud...

Heddiw, mae BIP Cwm Taf Morgannwg yn lansio ei gynllun ymgysylltu â'r cyhoedd i gyd-fynd â CTM 2030: Ein Hiechyd, Ein Dyfodol.  

Mae ein cymunedau, ein staff, ein partneriaid a'n rhanddeiliaid i gyd yn cael eu gwahodd i ddod ynghyd i 'greu cymunedau iachach gyda’n gilydd' drwy ddatblygu strategaeth sefydliadol newydd i BIP CTM ar gyfer y 10 mlynedd nesaf, sef CTM2030: Ein Hiechyd Ein Dyfodol.

Meddai Paul Mears, Prif Weithredwr BIP CTM, “Drwy ein strategaeth, byddwn ni’n gwneud popeth posib i wneud yn siŵr fod y cyfle gorau gyda phob grŵp oedran yng Nghwm Taf Morgannwg i fyw bywydau hapus ac iach, ac i ddefnyddio gwasanaethau o ansawdd uchel sy'n fforddiadwy, yn effeithlon, yn gynaliadwy ac yn fwy na dim, yn ddiogel.

“Rydyn ni'n gwybod bod taith anodd o'n blaenau, sy’n fwy heriol fyth ar ôl dwy flynedd o bandemig. Nod CTM 2030: Ein Hiechyd Ein Dyfodol yw dod â'n partneriaid rhanbarthol, ein rhanddeiliaid a’n cymunedau at ei gilydd i gael sgwrs ar y cyd ynglŷn â sut beth yw iechyd a gofal da dros y 10 mlynedd nesaf a’r tu hwnt i breswylwyr CTM?

Ychwanegodd Linda Prosser, Cyfarwyddwr Gweithredol Strategaeth a Thrawsnewid BIP CTM:

“Mae croeso i chi roi unrhyw adborth i ni. Os yw’n bwysig i bobl, rydyn ni am glywed amdano. Rydyn ni am droi’r sgwrs oddi wrth 'beth sy’n bod gyda chi?’ at sgwrs lle mae ein cleifion, defnyddwyr ein gwasanaethau a’n cymunedau yn dweud wrthym ni beth sydd wir yn bwysig i chi.  Mae hynny'n golygu y byddwn ni’n gwella wrth wrando, yn rhoi llais cryfach i bobl wrth iddyn nhw gael gofal, yn ogystal â helpu pobl i gadw'n iach yn eu cartref ac yn eu cymuned eu hunain; gan reoli eu hiechyd a thrin eu cyflyrau yn hyderus.

Ychwanegodd Linda: “Trwy ymrwymiad newydd 'CTM gwyrdd', rydyn ni hefyd yn blaenoriaethu’r ffordd rydyn ni’n datblygu model cynaliadwy ar gyfer gofal iechyd at y dyfodol, sy'n parchu ein planed am genedlaethau i ddod. I wneud hyn, rhaid i ni ystyried ein hadnoddau iechyd a gofal cymdeithasol, ein hasedau, ein seilwaith (adeiladau) ac effaith amgylcheddol ehangach ein holl wasanaethau gofal iechyd ar ein planed am genedlaethau i ddod.”

Nodau ein strategaeth

Pedwar nod clir sy’n arwain datblygiad y strategaeth:

  • Creu iechyd
  • Gwella gofal
  • Ysbrydoli pobl
  • Cynnal ein dyfodol.

Cewch wybod mwy am y nodau hyn yma.

Dyma gyfle i chi feddwl am beth mae'r nodau hyn yn ei olygu i chi dros bum cyfnod allweddol yn eich bywyd:

  • Dechrau'n dda (cael eich geni)
  • Tyfu'n dda (plant a phobl ifanc)
  • Byw'n dda (oedolion)
  • Heneiddio'n dda (pobl hŷn)
  • Marw’n dda

Ffyrdd o ymgysylltu â ni

Mae eich barn a'ch safbwyntiau, fel trigolion yn ein rhanbarth, yn hanfodol wrth i ni ddatblygu CTM 2030: Ein Hiechyd Ein Dyfodol.

Bydd llawer o ffyrdd o gymryd rhan. Rydyn ni’n eich annog chi, ac unrhyw grwpiau, sefydliadau a rhwydweithiau rydych chi’n gysylltiedig â nhw, i rannu unrhyw brofiadau personol o iechyd yn CTM a'ch syniadau o ran sut mae modd i ni gydweithio i greu cymunedau iachach.

Llenwch ein harolwg byr

Heddiw (22 Rhagfyr), rydyn ni’n cychwyn CTM 2030: Ein Hiechyd, Ein Dyfodol drwy lansio ein harolwg ar-lein sy’n ymwneud â chynnwys y cyhoedd. Mae modd gwneud yr arolwg ar-lein, ei drafod dros y ffôn â'r staff, neu ei rannu fel adborth ysgrifenedig; beth bynnag sydd fwyaf addas i chi (sylwch y bydd yr arolwg yn cau ddydd Mercher 12 Ionawr 2022).

Llenwch ein harolwg byr.

Ewch i'n gwefan a'n tudalennau ar y cyfryngau cymdeithasol am ddiweddariadau rheolaidd ynglŷn â’r datblygiad tuag at CTM 2030: Ein Hiechyd Ein Dyfodol, cyn i ni ddisgwyl ei lansio yng ngwanwyn 2022.

Os oes unrhyw gwestiynau gyda chi rhwng nawr a hynny, mae croeso i chi gysylltu â thîm ein prosiect ar CTM.ourhealthourfuture@wales.nhs.uk

 

CTM 2030: Hyrwyddwyr Cymunedol

Os ydych chi’n rhan o grŵp cymunedol a hoffech chi gymryd rhan uniongyrchol yn y gwaith o ddatblygu ein strategaeth, byddai’n braf iawn clywed gennych chi! Ysgrifennwch atom: CTM.ourhealthourfuture@wales.nhs.uk

Yn olaf, cadwch lygad allan am Hyb Ymgysylltu Cymunedol CTM 2030, fydd yn lansio yn y flwyddyn newydd!

#CTMEinHiechydEinDyfodol