Neidio i'r prif gynnwy
Linda Prosser

Cyfarwyddwr Gweithredol Strategaeth a Thrawsffurfio

Amdanaf i

Cyfarwyddwr Gweithredol Strategaeth a Thrawsffurfio

Mae Linda yn swyddog gweithredol profiadol yn y GIG ar ôl gweithio ar lefel uwch mewn sawl sector o'r GIG ac mewn sefydliadau partneriaeth.  Mae hyn yn cynnwys awdurdod lleol ac yn y sector gwirfoddol, yn ogystal â bod yn Brif Swyddog sefydliad comisiynu.   

A hithau’n ffisiotherapydd cymwys sy'n arbenigo mewn gofal strôc, ymgymerodd Linda â rolau rheoli cyffredinol mewn meddygaeth, offthalmoleg a gwasanaethau cymunedol, cyn mynd â’i gyrfa at gomisiynu mewn gwahanol sefydliadau yn ne-orllewin Lloegr ac yn y pen draw yn GIG Lloegr.  Cyn hynny, roedd Linda yn Brif Swyddog ar Wiltshire CCG am ddwy flynedd, lle roedd hi’n arwain gwaith sylweddol ym maes datblygu gofal sylfaenol ac integreiddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Yn fwy diweddar, mae Linda wedi ymgymryd ag aseiniadau ymgynghori gan gynnwys yn CTM lle mae hi wedi bod yn gweithio ar y Rhaglen Gwella Gofal Brys.  Mae gan Linda ddealltwriaeth dda o'r GIG, y sector cyhoeddus yn gyffredinol a'r cyd-destun gwleidyddol ehangach.