Neidio i'r prif gynnwy

Rheolau Sefydlog a Chyfarwyddiadau Ariannol Sefydlog

Mae'r Rheolau Sefydlog a'r atodlenni cysylltiedig yn sail ar gyfer datblygu fframwaith llywodraethu ac atebolrwydd ein Bwrdd Iechyd ac, ynghyd â mabwysiadu fframwaith Gwerthoedd a Safonau Ymddygiad y Bwrdd Iechyd (a elwir yn Bolisi Safonau Ymddygiad), mae wedi'i gynllunio i sicrhau cyflawni'r safonau llywodraethu da a osodwyd ar gyfer y GIG yng Nghymru.

Rhaid i holl aelodau a swyddogion y Bwrdd Iechyd fod yn ymwybodol o'r Rheolau Sefydlog hyn a, lle bo hynny'n briodol, dylent fod yn gyfarwydd â'u cynnwys manwl. Bydd y Cyfarwyddwr Llywodraethu Corfforaethol / Ysgrifennydd y Bwrdd yn gallu darparu cyngor ac arweiniad pellach ar unrhyw agwedd ar y Rheolau Sefydlog neu'r trefniadau llywodraethu ehangach yn ein Bwrdd Iechyd.

Gellir cael mwy o wybodaeth am lywodraethu yn y GIG yng Nghymru yn www.wales.nhs.uk/governance-emanual/.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â: CTM_Corporate_Governance@wales.nhs.uk.