Mae hygyrchedd y wefan hon yn cael ei lywio gan safonau’r llywodraeth a Chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys ar y We (Web Content Accessibility Guidelines). Mae’r Canllawiau’n cael eu hystyried yn safon ryngwladol ar gyfer hygyrchedd ar y we.
Er ein bod yn ceisio gwneud y wefan yn hygyrch i’r holl ddefnyddwyr a chydymffurfio â safonau i lefel ‘AA’, rydyn ni’n gweithio gyda’n rhanddeiliaid i sicrhau ein bod yn cydymffurfio i lefel ‘A’ o leiaf.
Os byddwch yn cael unrhyw drafferth gyda’r wefan hon o safbwynt hygyrchedd, neu os oes unrhyw sylw gyda chi, cysylltwch â ni.
Mae teclyn ‘darllen yn uchel’ yn rhan o fersiynau newydd o Adobe Reader (fersiwn 7 ac yn uwch). Gallwch ddefnyddio’r teclyn hwn ar gyfer dogfennau PDF trwy ddilyn 3 cham byr:
• Agorwch ddogfen PDF a cliciwch ar “View”
• Dewiswch “Read Out Loud”
• Rhowch “Read Out Loud” ar waith
Dyma rai o’r llwybrau byr sy’n cael eu defnyddio yn aml:
• Shift + Ctrl + Y: Rhowch “Read Out Loud” ar waith
• Shift + Ctrl + V: Darllen y dudalen bresennol
• Shift + Ctrl + B: Darllen hyd at ddiwedd y ddogfen
• Shift + Ctrl + C: Oedi’r darllen/parhau â’r darllen
• Shift + Ctrl + E: Stopio
• Internet Explorer: Cliciwch ar “View” yn y ddewislen ar frig y porwr > cliciwch ar “Select Text Size” neu “Zoom”
• Firefox: Cliciwch ar “View” yn y ddewislen ar frig y porwr > Cliciwch ar “Text Size” neu “Zoom” Fel arall, gallwch ddal y botwm “Ctrl” ar eich bysellfwrdd a gwasgu’r botwm (+) ar yr un pryd i wneud y testun yn fwy. I wneud y testun yn llai, daliwch y botwm “Ctrl”, a gwasgwch y botwm (-)
• Nodwch y gallai’r gosodiadau uchod newid, yn ddibynnol ar ba fersiwn o’r porwr rydych yn ei ddefnyddio.
Mae’n bosib y bydd rhaid i chi lawrlwytho’r darllenwyr canlynol er mwyn agor dogfennau mewn fformatiau gwahanol ar y wefan hon. Gallwch lawrlwytho’r rhain yn rhad ac am ddim o’r gwefannau allanol perthnasol isod: