Neidio i'r prif gynnwy

Ydych chi'n gymwys i gael y brechiad gwanwyn RSV neu COVID-19?

Mae dau frechlyn pwysig yn cael eu cynnig y gwanwyn hwn, ac rydym am sicrhau bod pawb sy'n gymwys yn cael yr amddiffyniad sydd ei angen arnyn nhw.  

Brechiad gwanwyn COVID-19

Mae brechiad y gwanwyn COVID-19 bellach yn cael ei gynnig i: 

  • Oedolion 75 oed neu hŷn 

  • Preswylwyr mewn cartrefi gofal i oedolion hŷn 

  • Pobl chwe mis oed neu hŷn sydd ag imiwnedd gwan. Hyd yn oed os ydych chi wedi cael eich brechu o'r blaen, mae eich amddiffyniad yn gwanhau dros amser. Dyna pam ei bod hi'n bwysig cael y brechiadau diweddaraf.  

Byddwch yn derbyn llythyr gwahoddiad i fynychu apwyntiad ar gyfer eich brechiad. 

Darllenwch ragor o wybodaeth am y brechlyn COVID-19. 

 

Bbrechlyn RSV - feirws syncytiol anadlol 

Bydd y brechlyn RSV, sydd wedi cael ei gynnig yn rheolaidd i bobl pan fyddan nhw’n troi’n 75 oed, bellach hefyd yn cael ei gynnig i bobl 80 oed a hŷn a phreswylwyr mewn cartrefi gofal i oedolion hŷn. Mae menywod beichiog hefyd yn gymwys i gael y brechlyn RSV

Chwiliwch am eich llythyr gwahoddiad a manteisiwch ar y cynnig pan fydd yn cyrraedd.  

Gall cael eich brechu leihau eich risg o salwch difrifol a mynd i'r ysbyty oherwydd RSV a COVID-19.  

Darllenwch fwy am y RSV

Am fwy o wybodaeth am frechlynnau, ewch i wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru