Neidio i'r prif gynnwy

Uchafbwyntiau 'Bwyd a Hwyl' gwych 2023

Mae'r wythnos hon yn nodi'r 8fed flwyddyn lwyddiannus o ddosbarthu bwyd a hwyl ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.

Darparwyd 1660 o leoedd mewn 34 o ysgolion i blant oed cynradd ar draws Cwm Taf Morgannwg rhwng Gorffennaf 25 ac Awst 9. Dros raglen 12 diwrnod llawn hwyl, mae plant wedi cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau corfforol, wedi dysgu am faeth a diet iach, wedi ennill sgiliau coginio newydd (gan gynnwys paratoi byrbrydau a phrydau iach ar gyfer eu cartrefi a'u teuluoedd), ac wedi mwynhau sesiynau blasu bwyd gyda ffrindiau hen a newydd. Mae Bwyd a Hwyl wedi cael ei ddarparu gan ein tîm Dieteg Iechyd y Cyhoedd, gyda chefnogaeth partneriaid rhanbarthol.

Darllenwch ein huchafbwyntiau ar gyfer 2023 yma: Uchafbwyntiau 'Bwyd a Hwyl' gwych 2023

 

 

​​​​​​​10/08/2023