Neidio i'r prif gynnwy

Bwyd a Hwyl

Yr wythnos hon mae Bwyd a Hwyl yng Nghwm Taf Morgannwg yn lansio am ei seithfed flwyddyn lwyddiannus.

Mae bwyd a hwyl yn rhaglen wedi’i lleoli mewn ysgolion a ddarperir gan staff ysgol a phartneriaid am o leiaf 12 diwrnod dros wyliau haf yr ysgol.

 

Mae'r prosiect aml-asiantaeth hwn yn darparu prydau iachus, addysg maeth, chwaraeon a chyfleoedd gweithgaredd corfforol eraill i blant a theuluoedd, ac yn hyrwyddo dysgu trwy raglen o weithgareddau cyfoethogi. Mae hyn yn gweld ystod o ganlyniadau cadarnhaol yn gyson:

• Gwell iechyd meddwl a lles emosiynol

• Ymgysylltiad â’r ysgol a chyrhaeddiad addysgol

• Gwell dyheadau

• Gwell gweithgaredd corfforol

• Gwell ymddygiad dietegol

 

Nod y rhaglen yw cynnwys y teulu cyfan, cefnogi datblygiad sgiliau newydd yn seiliedig ar iechyd a lles a gwneud gwell defnydd o gyfleusterau sy’n bodoli eisoes dros wyliau'r haf, a hynny’n tra’n gwneud ffrindiau newydd a chael hwyl.

Mae tîm Deieteg Iechyd y Cyhoedd Cwm Taf Morgannwg wedi darparu hyfforddiant i 49 o staff ysgol a hyfforddwyr chwaraeon er mwyn iddyn nhw fod yn y sefyllfa orau bosibl i hyrwyddo negeseuon maeth cadarnhaol trwy amrywiaeth o gemau a gweithgareddau sydd wedi’u creu’n benodol. O ganlyniad, bydd bwyd a hwyl yn cael ei ddarparu ar 17 o safleoedd ysgol ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg eleni, gan gynnig lleoedd i 760 o bobl ifanc.

Meddai Shelley Powell, Rheolwr Dieteteg Proffesiynol ar gyfer Iechyd y Cyhoedd yng Nghwm Taf Morgannwg:

“Ar ôl blynyddoedd anodd mewn ysgolion, mae wedi bod yn fraint i staff dieteteg iechyd y cyhoedd allu nid yn unig hyfforddi staff a sicrhau ansawdd darpariaeth Bwyd a Hwyl, ond eleni i gamu i mewn a chyflwyno’r rhaglen ym Merthyr hefyd. Bydd hyn yn sicrhau bod plant lleol yn parhau i gael mynediad at y ddarpariaeth anhygoel hon sy’n rhoi strwythur, hwyl a chyfleoedd dysgu y mae mawr eu hangen i blant a theuluoedd dros yr haf’.

Os oes gan eich ysgol leol ddiddordeb mewn darparu bwyd a hwyl y flwyddyn nesaf, cysylltwch â Shelley.Powell@wales.nhs.uk

 

Am fwy o wybodaeth ewch i Ffilm 'Bwyd a Hwyl' - WLGA.