Heddiw (10 Mai), mae BIP Cwm Taf Morgannwg yn ymuno yn y dathliadau byd-eang i nodi Diwrnod Rhyngwladol y Nyrsys.
Mae Diwrnod Rhyngwladol y Nyrsys yn gyfle i gydnabod gwaith, ymroddiad a sgiliau anhygoel nyrsys a Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd ledled y byd.
Rydym yn hynod falch o’n timau nyrsio a bydwreigiaeth amrywiol yn CTM, ac yn gwerthfawrogi popeth y maen nhw’n ei wneud dros ein cleifion a’n cymunedau, bob dydd, yn ein hysbytai ac ar draws cymunedau.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae nyrsys BIP Cwm Taf Morgannwg wedi bod yn gweithio’n ddiflino i ddarparu’r gofal iechyd gorau posibl i aelodau ein cymuned, ac fel bwrdd iechyd, rydym wedi bod yn falch iawn o weld llawer o’n staff nyrsio yn cael eu cydnabod am eu cyflawniadau.
Dyma gip yn ôl ar rai o’n huchafbwyntiau o 2023-24…
Nursing Times Awards 2023
Enillodd Greg Padmore-Dix, Cyfarwyddwr Nyrsio, Bydwreigiaeth a Gofal Cleifion y Wobr Prif Swyddogion Nyrsio am Gyflawniad Oes yng Ngwobrau Nursing Times 2023 yn Llundain https://bipctm.gig.cymru/newyddion/y-newyddion-diweddaraf/gwobr-y-prif-swyddogion-nyrsio-am-gyflawniad-oes/
Enillodd nyrsys BIP CTM wobrau yng Ngwobrau y Coleg Nyrsio Brenhinol (RCN) 2023
Enillodd chwech nyrs BIP CTM wobrau yng Ngwobrau RCN 2023:
Chwech o'n nyrsys BIP CTM anhygoel yn ennill gwobrau yng Ngwobrau RCN 2023
Gwrandewch ar Mandie Welch yn trafod arwyddion a symptomau Methiant y Galon ar gyfer Wythnos Ymwybyddiaeth Methiant y Galon ar BBC Radio Wales:
https://www.bbc.co.uk/programmes/m001ymzr (O 1.45.47)
Ymweliad Brenhinol
Roedd tair nyrs ryngwladol o Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ymhlith dim ond pump ar hugain o nyrsys o Gymru i fynd gyda’r Prif Swyddog Nyrsio, Sue Tranka i Balas Buckingham – Tair Nyrs Ryngwladol o CTM wedi’u gwahodd i Balas Buckingham!
Gwobr Gweithiwr Cymorth Nyrsio 2023
Cafodd Christian Harris a Kirsten Jenkins (Gweithwyr Cymorth) eu dyfarnu yn y categori 'Gwobr Gweithiwr Cymorth Nyrsio' yng Ngwobrau Coleg Brenhinol y Nyrsys, 2023
https://bipctm.gig.cymru/newyddion/y-newyddion-diweddaraf/enillydd-gwobr-gweithiwr-cefnogi-nyrsio-2023/
Gwobr Rhagoriaeth y Prif Swyddog Nyrsio 2023
Derbyniodd Catherine Lowery, Nyrs Arbenigol Dementia Iechyd Meddwl CTM Wobr Rhagoriaeth y Prif Swyddog Nyrsio am ei gwaith rhagorol yng Ngharchar y Parc - https://bipctm.gig.cymru/newyddion/y-newyddion-diweddaraf/gwobr-rhagoriaeth-cno-ar-gyfer-nyrs-iechyd-meddwl/
(RCN) Gwobrau Nyrs y Flwyddyn Cymru, 2023
Derbyniodd Judith Wall a Bethan Williams (Nyrsys Cyswllt Anabledd Dysgu Acíwt) y Wobr Anableddau Dysgu ac Iechyd Meddwl yng ngwobrau Nyrs y Flwyddyn Coleg Brenhinol y Nyrsys (RCN) Cymru eleni - https://bipctm.gig.cymru/newyddion/y-newyddion-diweddaraf/ymrwymiad-nyrsys-yn-ennill-gwobr-genedlaethol/
Gwobr Hyrwyddwr Achub Bywydau Brechlyn 2024
Enillodd Rhianydd Davey (Cydlynydd Imiwneiddio) y Wobr Hyrwyddwr Achub Bywydau Brechlyn yn 2024 yng Nghynhadledd Imiwneiddio Cymru Iechyd Cyhoeddus Cymru
Tracy Evans – Gweithio mewn partneriaeth â’r elusen ddigartrefedd, The Wallich
Mae Tracy Evans (Nyrs Glinigol Arbenigol) yn mynd â gofal nyrsio allan ar y strydoedd, gan gyrraedd pobl na fydden nhw fel arall yn cyrchu cymorth. Cafodd gwaith ysbrydoledig Tracey sylw yn ddiweddar gan ITV - itv.com/watch/news/catch-up-with-itv-cymru-wales-news-on-tuesday-07th-may-2024/fhnv46w
Diolch yn fawr, a llongyfarchiadau unwaith eto i'n holl nyrsys gwych a Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd!
10/05/2024