Neidio i'r prif gynnwy

Gwobr Rhagoriaeth CNO ar gyfer nyrs iechyd meddwl

Mae Nyrs Arbenigol Dementia Iechyd Meddwl CTM, Catherine Lowery, wedi derbyn Gwobr Rhagoriaeth Prif Swyddog Nyrsio am ei gwaith rhagorol yng Ngharchar y Parc.

Cath yw'r nyrs dementia arbenigol gyntaf yn y carchar a dros y flwyddyn ddiwethaf mae wedi gwella ansawdd y gwasanaeth a ddarperir yn y carchar i unigolion sy'n byw gyda dementia. Mae hi wedi chwarae rhan allweddol yn y gwaith o weithredu Amgylchedd/Adain Dementia Gyfeillgar - y cyntaf o'i fath yng Nghymru.

Mae Cath hefyd wedi cefnogi staff carchardai gyda hyfforddiant ac addysg o amgylch gofal dementia ac mae wedi gweithredu fideos hyfforddi dementia sy'n edrych ar ymddygiadau sy'n herio ac yn ymdrin â gofalu am yr unigolion hyn.

Dywedodd Ana Llewellyn, Cyfarwyddwr Nyrsio CTM ar gyfer Iechyd Sylfaenol, Cymunedol a Meddyliol: "Rydym yn eithriadol o falch o Cath. Mae hi wedi dangos sgiliau arwain a phartneriaeth ers i ddarpariaeth gofal iechyd HMP Parc drosglwyddo i’r bwrdd iechyd y blwyddyn diwethaf. Mae hi wedi ymrwymo’n fawr i ddarparu gofal rhagorol i’r boblogaeth fregus hon.”

Mae Cath yn enghraifft ddisglair o nyrs dosturiol, caredig a dewr yn ogystal â bod yn hynod wydn, gweithgar ac ymroddedig i wella’r canlyniadau i’n poblogaeth a thrin pob unigolyn yr un fath.

 

19/10/2023