Neidio i'r prif gynnwy

Cafodd tair Nyrs Ryngwladol o CTM eu gwahodd i Balas Buckingham!

nurses meet king

Roedd tair nyrs ryngwladol o Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn dair o bump ar hugain o nyrsys o Gymru i fynd gyda’r Prif Swyddog Nyrsio, Sue Tranka, i Balas Buckingham.

Roedd y digwyddiad a gynhaliwyd yr wythnos diwethaf i ddathlu’r cyfraniadau y mae nyrsys yn eu gwneud i’r proffesiwn nyrsio a bydwreigiaeth mewn derbyniad ym Mhalas Buckingham a gynhaliwyd gan y Brenin.

Roedd Jocelyn Selmois, Valerie Lei Valera-Tayamen a Helsie San Jose yn dair o gannoedd o nyrsys oedd wedi cael eu dewis i ymweld â'r Palas trwy enwebiad.

Mae Jocelyn Selmois, yn brif nyrs y ward sy'n gweithio yn Ysbyty'r Tywysog Siarl, ward 11. Daeth Jocelyn i Gymru 22 mlynedd yn ôl o Ynysoedd Philippines. Enwebodd y nyrs arweiniol ar gyfer gofal heb ei drefnu Jocelyn ar ôl trafod hyn gyda’i chydweithwyr, maen nhw’n credu bod Jocelyn yn esiampl wych i’r proffesiwn nyrsio, mae’n dangos angerdd, ymrwymiad a gofal i’w holl gleifion a’i staff.

Mae Valerie Lei Valera-Tayamen(Lei) yn brif nyrs y ward sy'n gweithio ar Ward 11 yn Ysbyty Tywysoges Cymru. Lei oedd yr un o'r nyrsys a gyflogwyd yn uniongyrchol o Ynysoedd Philippines. I ddechrau, bu Lei yn gweithio mewn ward endocrin cyn symud i lawdriniaeth.

Dywedodd Lei: “Roedd y rhan fwyaf o fy mlynyddoedd yn ymroddedig i weithio o fewn llawdriniaeth oherwydd dyna lle mae fy angerdd. Gweithiais ar ward 7 yn YTC fel uwch nyrs staff ac yn ddiweddarach fel prif nyrs y ward am bron i bum mlynedd cyn symud i ward 11 fel rheolwr y ward ym mis Gorffennaf 2019.”

Mae Lei bellach wedi gweithio yn Ysbyty Tywysoges Cymry ers 20 mlynedd, 10 mis ac yn dal i gyfri. Enwebodd pennaeth nyrsio Ysbyty Tywysoges Cymru Lei oherwydd ei hangerdd a'i hymrwymiad i nyrsio. Dywed fod Lei 'wedi gweithio ei ffordd i fyny yma yn YTC a'i bod yn rheolwr y ward rhagorol. Does dim ganddi unrhyw swyddi gwag ar ei ward oherwydd ei harweinyddiaeth ac mae wedi adeiladu tîm rhagorol. Mae’n arwain ei thîm i ddarparu gofal tosturiol i’r merched y maen nhw’n eu gweld ar y ward yn mynd trwy gyfnod trawmatig ac emosiynol yn eu bywydau.”

Mae Helsie San Jose, sy’n gweithio yn Uned Gofal y Galon yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, yn fam falch i dri o blant. Mae ei gwaith yn cynnwys gofalu am gleifion â Chnawdnychiad Myocardaidd, methiant y galon ac arhythmia cardiaidd. Mae Helsie yn rheoli'r ward o ddydd i ddydd ac yn cefnogi aelodau iau'r tîm. Daeth Helsie i Gymru yn 2001 o Ynysoedd

Philippines ac mae wedi gweithio yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg ers bron i 22 mlynedd. Enwebodd y nyrs arweiniol ar gyfer gofal heb ei drefnu yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg Helsie oherwydd ei bod yn credu bod Helsie yn haeddu cael ei chydnabod am ei gwaith caled, ei gallu i addasu a bod yn nyrs wych.

Da iawn i'r tair nyrs am eu cydnabyddiaeth!

 

27/11/2023