Yn ôl adroddiad newydd, amcangyfrifir bod y profion torfol â dyfeisiau llif unffordd ym Merthyr Tudful ac yn rhan isaf Cwm Cynon wedi atal 353 o achosion o COVID-19, 24 o achosion o orfod mynd i’r ysbyty, 5 achos o orfod mynd i uned gofal dwys ac 14 o farwolaethau;
Canfu gwerthusiad o'r peilot, a ryddhawyd heddiw (dydd Llun Mawrth 22) gan y sefydliadau partner a gyflwynodd y fenter, fod nodi achosion o COVID-19 mewn pobl asymptomatig trwy brofion llif ochrol torfol yn arbed bywydau ac yn atal cannoedd o achosion o'r firws mewn a amser pan oedd y cyfraddau'n uchel iawn yn yr ardaloedd hyn.
Canfu'r gwerthusiad hefyd:
Cynhaliwyd y cynllun profi torfol peilot ym mis Tachwedd a mis Rhagfyr 2020, gyda’r nod o atal y Coronafeirws rhag lledaenu mewn ardaloedd â nifer fawr o achosion a chyfraddau positif uchel.
Cyflwynwyd y cynlluniau peilot o ganlyniad i gydweithrediad na welwyd ei debyg o’r blaen rhwng partneriaid. Ymhlith y rhain roedd yr awdurdodau lleol, y Bwrdd Iechyd, Llywodraeth Cymru, y lluoedd arfog, yr heddlu a Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, yn ogystal ag ysgolion a’r trydydd sector.
Canfu’r gwerthusiad fod nifer fawr o bobl wedi cymryd rhan yn y cynllun profi peilot. Cafodd 22,021 o bobl ym Merthyr Tudful eu profi, sef bron hanner y boblogaeth darged (49%). Cafodd 10,457 o bobl yn rhagor yn rhan isaf Cwm Cynon eu profi, sef 56% o’r boblogaeth darged. Mae’r ffigurau hyn yn agos at ddwbl ffigurau cynlluniau peilot Lerpwl a’r Alban.
Cyfradd y profion positif oedd 2.3% ym Merthyr Tudful a 2.6% yn rhan isaf Cwm Cynon.Canfu’r adroddiad fod cyfradd y profion positif yn uwch ymysg y carfannau canlynol:
Canfu'r gwerthusiad lefel uchel o sicrwydd ynghylch profion dyfeisiau llif ochrol (LFD), gan fod y profion yn dangos perfformiad da wrth nodi heintiau asymptomatig, gan awgrymu rôl wahanol ond cyflenwol i brofion PCR a ddefnyddir yn bennaf i wneud diagnosis o heintiau symptomatig. Nid yw rhwng un o bob pedwar ac un o bob tri o bobl sydd â Coronavirus byth yn dangos unrhyw symptomau, felly gall profion LFD helpu i adnabod pobl sydd â'r firws nad oes ganddynt symptomau ac na fyddent fel arall yn dod ymlaen am brawf.
Nid oedd symptomau gan fwyafrif helaeth (99.6%) y rheiny a ddaeth i’r canolfannau profi torfol, sy’n dangos bod y gymuned wedi deall diben y profion ac wedi dod i’r canolfannau yn briodol;
Dyma rai o gasgliadau eraill y gwerthusiad:
Mae'r adroddiad yn argymell y canlynol:
Dywedodd yr Athro Kelechi Nnoaham, Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg: “Mae’n braf gen i rannu’r adroddiad hwn sy’n gwerthuso llwyddiant ein cynllun profi torfol peilot. Roedd hwn yn gynllun uchelgeisiol iawn a gafodd ei gynnal ar frys, gyda’r nod o wneud gwahaniaeth sylweddol i’n cymunedau ar adeg pan oedd nifer yr achosion o COVID-19 yn hynod o uchel yn yr ardaloedd hyn.
“Mae’r canlyniadau’n amcangyfrif bod mwy na 350 o achosion o COVID-19 ac 14 o farwolaethau wedi cael eu hatal, sy’n dweud y cyfan wrthym ni. Yn ogystal â bod yn newyddion cadarnhaol i’n cymunedau, mae’r gwerthusiad yn dangos bod y cynllun peilot wedi lleddfu’r pwysau ar ein hysbytai ac ar ein gweithwyr hanfodol pan oedd angen hyn arnynt fwyaf. Cyfanswm yr elw mewn termau ariannol oedd £5.8 miliwn, felly roedd hyn yn fuddsoddiad da.
“Credaf y bydd yr adroddiad hwn yn werthfawr iawn i unrhyw sydd â diddordeb mewn defnyddio profion llif unffordd yn rhan o strategaeth brofi ehangach yng Nghymru a ledled y byd. Mae’n dangos bod potensial gan brofion llif unffordd i fod yn rhan allweddol o’n prosiect Profi, Olrhain, Diogelu, wrth i ni edrych yn fwy hyderus ar adfer ar ôl COVID-19, ac mae’n cynnig profiad go iawn i feysydd eraill sy’n ystyried dull tebyg. Mae’r adroddiad gwerthuso llawn yn rhoi glasbrint i bobl eraill ei ddefnyddio.
Hoffwn ddiolch i’r partneriaid a gydweithiodd â ni ar bob cam o’r broses, ac i’r cymunedau a weithiodd gyda ni i sicrhau ei fod yn llwyddiannus. Heb eu hymroddiad a’u gwaith caled, ni fyddai’n bosibl cynnal cynllun o’r raddfa hon.”
Mae crynodeb o'r adroddiad a dolenni i'r adroddiad llawn i'w gweld isod:
NEWYDD A DIWEDDARWYD Crynodeb Gweithredol
NEWYDD A DIWEDDARWYD Adroddiad Llawn
Crynodeb Cyhoeddus o'r Adroddiad Gwerthuso (Saesneg) (Cymraeg)
NEWYDD A DIWEDDARWYD Atodiadau (Page 1) (Page 2) (Page 3)
I'w nodi: Yn yr adroddiad wedi'i ddiweddaru, mae'r adran ar asesu cywirdeb profion LFD wedi'i dileu. Mae cyfeiriadau cysylltiedig at y pwnc hefyd wedi'u dileu. Tybiwyd cywirdeb profion LFD wrth nodi haint ar gyfer y peilot hwn yn seiliedig ar astudiaethau perthnasol ac nid oedd y data a gasglwyd gennym yn y peilot yn agored i ddadansoddiad o gywirdeb profion.
Am geisiadau ar gyfer cyfweliad gyda'r Athro Kelechi Nnoaham, e-bostiwch CTM.News@wales.nhs.uk.