Mae ardal theatr ac adferiad newydd, a fydd yn cael ei defnyddio bron yn gyfan gwbl ar gyfer trin cleifion canser y fron wedi agor yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg yr wythnos hon.
Mae rhieni a gwarcheidwaid yn cael eu hatgoffa o bwysigrwydd rhoi dau ddos o’r brechlyn MMR i’w plant.
Yn dilyn ymgynghoriad mewnol ac allanol, rydym yn falch o allu rhannu Cynllun Cydraddoldeb Strategol (CCS) Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (BIPCTM) ar gyfer 2024-2028.
Gall pobl yn ne Cymru nawr gael therapi iechyd meddwl ar-lein am ddim drwy system atgyfeirio newydd a sefydlwyd mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (BIP CTM).
Yr wythnos hon, atgyfnerthodd BIPCTM ei ymrwymiad i gefnogi teulu’r lluoedd arfog drwy lofnodi Cyfamod y Lluoedd Arfog.
Hoffai Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg roi’r wybodaeth ddiweddaraf am newidiadau i’w Wasanaethau Awtistiaeth Integredig i Oedolion (IAS) a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar gleifion sy’n byw yn Sir Pen-y-bont ar Ogwr.
O 1 Ebrill 2024, bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn gwneud gwelliannau i'r ffordd y mae'n darparu triniaeth a gofal i gleifion y fron sy'n byw yn Sir Pen-y-bont ar Ogwr.
Mae Diwrnod Ymwybyddiaeth Deliriwm y Byd yn ddigwyddiad blynyddol a gynhelir ar yr ail ddydd Mercher o Fawrth i godi ymwybyddiaeth am ddeliriwm a’i effaith ar gleifion, teuluoedd, a systemau gofal iechyd.
Rydym yn falch iawn o fod ar y rhestr fer yng Ngwobrau Arlwyo Cenedlaethol 2024 sydd yn cael ei gynnal yn Llundain ar 4 Ebrill am ein gwaith ar y bwydlenni 'Maeth' ar gyfer cleifion 'Nutritionally Well’ a 'Nutritionally Vulnerable'.
Heddiw, rydym yn dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod ar draws ein safleoedd, gan gydnabod y cyfraniad eithriadol y mae menywod yn ei wneud yn ein bwrdd iechyd a’n cymunedau.
Yn ystod y misoedd diwethaf, bu achosion sylweddol o'r frech goch yn y DU, gan gynnwys achosion yn Ne Cymru. Mae'r frech goch yn heintus iawn a'r unig ffordd i atal achosion mawr yw trwy dderbyn y brechiad MMR (2 ddos) yn uchel.
Rydym yn falch o groesawu Rachel Rowlands fel Aelod Annibynnol (cymuned) sydd newydd ei phenodi.
Pan fyddwch yn ymweld â'r wardiau plant yn Ysbyty'r Tywysog Siarl (YTS) ni fyddwch yn chwilio am wardiau 31 a 32 mwyach, yn awr Ward Crwbanod (31) a Ward Octopws (32) y byddwch yn edrych amdanynt.
Fel y gwyddoch efallai, rydym yn gweld cynnydd pryderus yn nifer yr achosion o'r frech goch yn y DU, gydag achosion diweddar yn rhanbarth De Cymru.
Yn gynharach yn y mis, cyflwynwyd Gwobrau GIG Cymru i'r Bartneriaeth Gweithgarwch Anabledd Iechyd gan Brif Weithredwr GIG Cymru, Judith Paget, am ei chyfraniad at wella iechyd a lles pobl anabl.
Mae pob un o'n hadrannau brys, yn ysbytai Brenhinol Morgannwg, Tywysog Charles a Thywysoges Cymru, yn wynebu pwysau eithafol.
Roeddem yn falch iawn o ddathlu gyda staff ddoe (Ionawr 17eg) sydd wedi cyflawni 40 mlynedd neu fwy yn gweithio yn y GIG.