O heddiw ymlaen, rydym yn falch o allu gwneud rhai newidiadau i ymweld â gwasanaethau mamolaeth. Bydd slotiau ymweld dyddiol un awr ar gael i bartner geni sengl o ferched ar ein wardiau ôl-enedigol.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn falch o gyhoeddi ei fod wedi cyflawni Safon Platinwm y Safon Iechyd Corfforaethol. Y Safon Iechyd Corfforaethol, sy'n cael ei rhedeg gan Lywodraeth Cymru, yw'r marc ansawdd cenedlaethol ar gyfer hybu iechyd yn y gweithle ledled Cymru.
Mae cydweithrediad ar y cyd rhwng staff Tîm Ffisiotherapi Paediatrig CTM, a staff a disgyblion Ysgol Tŷ Coch yn Nhon-teg, wedi ennill gwobr Better Together rhaglen genedlaethol MOVE. Mae'r wobr yn dathlu partneriaethau gwych i gyflawni'r canlyniadau gorau i ddisgyblion.
Rydyn ni am ysgrifennu atoch chi i roi’r diweddaraf i chi am ein rhaglen frechu rhag COVID-19.
Mae diweddariad diweddar i Borth Clinigol Cymru yn golygu bod gweithwyr iechyd proffesiynol ledled Cymru bellach yn gallu cael copïau digidol o ganlyniadau profion endosgopi a broncosgopeg eu cleifion gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.
Mae'n braf gan BIP Cwm Taf Morgannwg gymryd rhan yng nghynllun 'Kickstart' sy’n cael ei ariannu gan y Llywodraeth. Mae’r cynllun yn helpu pobl ifanc i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy a gwella eu cyfleoedd am gyflogaeth barhaus.
Mae'r Bwrdd Iechyd eisoes yn talu'r cyflog byw i'w holl staff.
Mae staff o Adrannau Argyfwng CTM, a dau gydweithiwr o Ysbyty’r Faenor Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan, wedi mynychu cwrs Hyfforddi’r Hyfforddwr ar gyfer Siwt Risbiradol Amddiffynnol ar 18 Medi yn Ysbyty Tywysoges Cymru, Pen-y-bont ar Ogwr.
Heddiw, rydyn ni’n nodi Diwrnod Babanod Cynamserol y Byd yn CTM trwy ddal i fyny gyda rhai o'r babanod bach gafodd eu geni’n gynnar i weld sut y maen nhw erbyn hyn.
Dyma hysbysiad y bydd cyfarfod o Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn cael ei gynnal Ddydd Iau 25 Tachwedd 2021 am 10:00 am.
Yr wythnos hon, ar draws CTM, rydym yn nodi Wythnos Ymarferwyr Uwch drwy ddathlu rôl Ymarferwyr Uwch yn ein Bwrdd Iechyd.
Mae Ymarferwyr Clinigol Uwch (ACPs) yn weithwyr gofal iechyd proffesiynol, wedi'u haddysgu hyd at lefel Meistr, sydd gyda'r sgiliau a'r wybodaeth i'w galluogi i ehangu eu cwmpas ymarfer i ddiwallu anghenion y bobl maen nhw’n gofalu amdanyn nhw.
Yr wythnos hon, ar draws CTM, rydym yn nodi Wythnos Ymarferwyr Uwch drwy ddathlu rôl Ymarferwyr Uwch yn ein Bwrdd Iechyd.
Mae Ymarferwyr Clinigol Uwch (ACPs) yn weithwyr gofal iechyd proffesiynol, wedi'u haddysgu hyd at lefel Meistr, sydd gyda'r sgiliau a'r wybodaeth i'w galluogi i ehangu eu cwmpas ymarfer i ddiwallu anghenion y bobl maen nhw’n gofalu amdanyn nhw.
O ystyried bod mwy na 10% o’r holl apwyntiadau claf allanol yn y DU yn ymwneud ag Offthalmoleg, roedd gwasanaethau llygaid yn ein hysbytai eisoes yn ei chael yn anodd ymdopi â’r galw hyd yn oed cyn i COVID-19 daro.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn lansio ei fenter 'werdd' yn ffurfiol yr wythnos hon i gyd-fynd â 26ain Cynhadledd Newid Hinsawdd flynyddol y Cenhedloedd Unedig, a fydd yn cael ei chynnal rhwng 31 Hydref ac 11 Tachwedd.
Bydd disgyblion blwyddyn 7 mewn chwe ysgol uwchradd ar draws Pontypridd a Llantrisant yn cwblhau rhaglen ddysgu â'r nod o godi ymwybyddiaeth o ganser y coluddyn. Cafodd y rhaglen ei datblygu trwy waith Ysgol Uwchradd Pontypridd gyda Moondance Cancer Initiative.
Mae BIP Cwm Taf Morgannwg wedi talu ei deyrnged i'r Cynghorydd Phil White, fu farw yn ddiweddar ar ôl mynd yn sâl gyda COVID-19.
Ar Ddiwrnod Menopos y Byd (Hydref 18), mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (CTM) yn falch iawn o fod yn lansio gwasanaeth cymorth Menopos newydd ar gyfer staff, i hybu gwell dealltwriaeth o’r menopos a sut mae'n effeithio ar berthnasoedd a theuluoedd. Mae'r gwasanaeth hwn yn agored i ddynion a menywod.
Mae Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, Emrys Elias, wedi croesawu penodiad Aelod Annibynnol newydd i'r Bwrdd, Lynda Thomas, gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.
Mae ein ward gofal i gleifion hŷn yn Ysbyty Tywysoges Cymru wedi symud i lawr y grisiau i Ward 15. Mae'r man newydd yn rhoi cyfleoedd newydd i gleifion gymysgu, cymryd rhan mewn gweithgareddau a threulio amser gyda'i gilydd, yn ogystal â diwallu eu hanghenion meddygol.
Yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth o Iechyd Meddwl 2021 (Hydref 3 - 9), mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ac Amser i Newid Cymru yn tynnu sylw at ei bartneriaeth arwyddocaol sydd wedi arwain at greu modiwl hyfforddi i chwalu stigma iechyd meddwl mewn lleoliadau gofal iechyd.