Neidio i'r prif gynnwy

Rhodd gan Glwb Golff Aberpennar yn cefnogi gardd i gleifion yn Ysbyty Cwm Cynon

Mewn noson elusennol a drefnwyd gan gapten y clwb golff Scott Hillman, Paul Jones ac aelodau eraill y pwyllgor codwyd £725 tuag at adnewyddu'r ardd ar ward gofal lliniarol Ysbyty Cwm Cynon. Yn ystod y noson elusennol bu chwaraewr Cymru a’r Llewod, Scott Quinnell, yn diddanu’r gwesteion gyda straeon o’i ddyddiau’n chwarae rygbi ac fe gadeiriodd Scott Hillman arwerthiant.

Mae Paul Jones, Cyfarwyddwr a Chynghorydd Ariannol Annibynnol Continuum Financial Services yn Llysgennad Addewidion Platinwm ar gyfer Hosbis y Ddinas ac yn codi arian ar gyfer yr hosbis – y tro hwn meddyliodd Paul y byddai'n deyrnged hyfryd rhannu'r arian rhwng yr Hosbis a’r ward gofal lliniarol yn Ysbyty Cwm Cynon, lle bu farw’r stiward golff a’r ffrind agos i lawer o’r aelodau, Danny Jones yn 2020.

Dywedodd Emma Abel, Nyrs Staff ar y ward: “Rydyn ni’n hynod o ddiolchgar am y rhodd hon gan Glwb Golff Aberpennar. Bydd y rhodd yn mynd tuag at dacluso’r ardd, prynu planhigion a dodrefn gardd newydd a rhoi lle i’n cleifion eistedd ac ymlacio a mwynhau’r awyr agored gyda’u teuluoedd.”

Hoffai’r Bwrdd Iechyd ddiolch i’r gymuned a gyfrannodd ac i Glwb Golff Aberpennar am eu rhodd garedig.