Neidio i'r prif gynnwy

Ymgymryd ag ymchwil yn CTM UHB

 

Rôl Tîm Ymchwil a Datblygu (Ym&D) BIP CTM yw hwyluso sefydlu, cyflwyno a sicrhau ansawdd ymchwil ar draws y Bwrdd Iechyd. Mae hyn yn cynnwys ymchwil a gyflwynir mewn gofal sylfaenol, gofal eilaidd, lleoliadau cymunedol ac iechyd y boblogaeth.

Mae'r tîm yn darparu cefnogaeth a chyngor arbenigol ar draws y llwybr ymchwil cyfan, o gynhyrchu syniad astudiaeth hyd at ei ledaenu. Mae Tîm Ymchwil a Datblygu BIP CTM yn angerddol am sicrhau mynediad at ymchwil i'n poblogaeth ac mae ganddo enw da sefydledig - o fewn a thu hwnt i'r Bwrdd Iechyd - am fod yn hwylusol, ymatebol ac effeithlon wrth gefnogi ymchwil o ansawdd uchel.

Ein Cyfleusterau

Mae'r tîm Ymchwil a Datblygu yn gweithio yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, Ysbyty Tywysoges Cymru, Ysbyty’r Tywysog Siarl a Pharc Iechyd Prifysgol Keir Hardie, gyda staff sefydlu a chyflawni ymchwil a datblygu ar gael ar draws y safleoedd i gyflwyno ymchwil i'n poblogaeth.

 

Ysbyty Brenhinol Morgannwg, Llantrisant: Y Ganolfan Ymchwil Clinigol

Cyfleusterau yn y Ganolfan Ymchwil Glinigol:

  • Ardal derbynfa gyfforddus
  • 3 ystafell glinig llawn offer 
  • 3 swyddfa gyda chyfleusterau desgiau hyblyg ar gael 
  • Storfa dan reolaeth tymheredd ar gyfer Cynnyrch Meddyginiaethol Ymchwiliol (IMPs)
  • Labordy bach gydag allgyrchydd, oergell a rhewgell 
  • Toiledau i Ddynion, Menywod a Phobl Anabl 
  • Ardal gegin
  • Mynediad at feddalwedd NVivo ac Analyze-it

 

Ysbyty'r Tywysog Siarl, Merthyr Tudful

Cyfleusterau yn Ysbyty'r Tywysog Siarl:

  • Lle swyddfa Ymchwil a Datblygu
  • Mynediad i'r prif gyfleusterau labordy a  fferyllfa
  • Hydref 2026 sydd ar ddod: Lle Ymchwil Clinigol

 

Ysbyty Tywysoges Cymru, Pen-y-bont ar Ogwr

Cyfleusterau yn Ysbyty Tywysoges Cymru:

  • Lle gweinyddol ar gyfer ymchwil a datblygu
  • Mynediad at gyfleusterau labordy

 

Parc Iechyd Prifysgol Keir Hardie, Merthyr Tudful

Cyfleusterau ym Mharc Iechyd Prifysgol Keir Hardie:

  • Lle gweinyddol ar gyfer ymchwil a datblygu gyda chyfleusterau desgiau hyblyg ar gael
    Ein Gwasanaethau

    Mae'r tîm Ymchwil a Datblygu yn darparu gwasanaeth sefydlu a chyflawni integredig, gan gynnwys y canlynol:

    • Canllawiau yn ymwneud â llywodraethu ymchwil, deddfwriaeth a gofynion cymeradwyo rheoleiddiol
    • Darparu cymorth ymchwil ac adnoddau
    • Trefnu capasiti a gallu lleol
    • Dod o hyd i gyfleoedd cyllid, costio astudiaethau a gwneud cais am gyllid
    • Hwyluso cynnwys cleifion a'r cyhoedd mewn ymchwil
    • Darparu templedi a chymorth wrth ddrafftio dogfennau ymchwil
    • Cyfeirio at bartneriaid yn y byd academaidd, diwydiant a'r trydydd sector
    • Cyfleoedd ariannu gan gynnwys Cronfa Ymchwil Gydweithredol
    • Sgrinio a recriwtio cyfranogwyr
    • Cydsyniad ar sail penderfyniad cytbwys
    • Cynnal gweithdrefnau'r astudiaeth a gwaith dilynol gyda chyfranogwyr
    • Casglu a llwytho data
    • Cynnal a chadw ffeiliau'r safle
    • Lleoliadau clinigol ymchwil a datblygu
    Gwybodaeth i Ymchwilwyr

    Beth yw fy mhrosiect?

    Mae'r Health Research Authority yn darparu tabl diffinio ymchwil sy'n disgrifio nodweddion allweddol prosiectau ymchwil, gwerthuso gwasanaethau, archwilio a gwyliadwriaeth iechyd, er mwyn cynorthwyo i benderfynu sut y dylid rheoli prosiect.

    Mae pecyn cymorth hefyd ar wefan yr Health Research Authority a all eich helpu i benderfynu a yw eich astudiaeth yn ymchwil ai peidio, fel y'i diffinnir gan Fframwaith Polisi'r DU ar gyfer Ymchwil Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

     

    Gwerthusiadau Gwasanaeth a Datblygiadau Gwasanaeth

    Gall unigolion sy'n ymgymryd â gwerthusiad gwasanaeth neu ddatblygiad gwasanaeth yn BIP CTM gofrestru eu prosiect gyda'r Adran Ymchwil a Datblygu. Gall yr Adran Ymchwil a Datblygu roi cyngor ar y broses gofrestru a darparu templedi ar gyfer dogfennau sydd wedi'u hanelu at gyfranogwyr.

     

    Ffurflen Gofrestru Prosiect

     

    Archwilio Clinigol a Gwella Ansawdd

    Ar gyfer Archwilio Clinigol cysylltwch ag:

    • Ysbyty'r Tywysog Siarl: 01685 721721 Estyniad 28159
    • Ysbyty Brenhinol Morganwg: 01443 443443 Estyniad 74477
    • Ysbyty Tywysoges Cymru: 01656 752752 Estyniad 75295

    Ar gyfer Prosiect Gwella Ansawdd, cysylltwch â: CTM.QualityImprovement@wales.nhs.uk

    Dilynwch ni: