Neidio i'r prif gynnwy

Cynhadledd Ymchwil a Datblygu

Bob blwyddyn mae BIP Cwm Taf Morgannwg yn cynnal cynhadledd Ymchwil a Datblygu i ddathlu’r ansawdd uchel a’r ymchwil gydweithredol sy’n cael ei wneud ar draws y BIP gan bob proffesiwn. Mae’r gynhadledd yn gyfle i rannu’r allbynnau ymchwil gydag ystod eang o gynrychiolwyr o’r GIG, y byd academaidd, Llywodraeth Cymru a diwydiant.

Bob blwyddyn, mae rhaglen y gynhadledd yn cynnwys prif araith, cyflwyniadau llafar a chyfle i'r holl fynychwyr edrych ar gyflwyniadau posteri a stondinau arddangos trwy gydol y dydd. Dyfernir gwobrau cyntaf, ail a thrydydd ar y diwrnod ar gyfer y cyflwyniadau llafar a'r posteri.

Mae galwad am grynodebau ar agor rhwng Mai a Medi gyda'r gynhadledd yn cael ei chynnal ym mis Tachwedd.

CADWCH Y DYDDIAD - DYDD MERCHER 25 TACHWEDD 2026

Bydd Cynhadledd Ymchwil a Datblygu 2026 eleni yn cael ei gynnal ddydd Mercher 25 Tachwedd 2025 yn y Castle Suite, Vale Resort, Hensol, CF72 8JY.

Drwy gydol y dydd, bydd cyfle i gynrychiolwyr wrando ar y cyflwyniadau llafar ac edrych ar y cyflwyniadau poster, sy'n arddangos y gwaith Ymchwil a Datblygu cydweithredol aml-broffesiynol o ansawdd uchel sy'n cael ei gynnal ar draws y Bwrdd Iechyd.  Mae'r gynhadledd hefyd yn rhoi cyfle i rwydweithio ac ymweld â stondinau ein noddwyr ac arddangoswyr.

Bydd e-bost yn cael ei anfon yn rhoi manylion am gyflwyno crynodebau a chofrestru yn fuan.

Dilynwch ni: