Neidio i'r prif gynnwy

Bod yn rhan o ymchwil yn BIP CTM

 

Heb ymchwil, ni fyddai llawer o'r triniaethau a'r mathau o ofal rydym yn eu derbyn yn rheolaidd yn y GIG heddiw ar gael.

Mae gan aelodau o'r cyhoedd rôl hanfodol i'w chwarae - heb i bobl gytuno i gymryd rhan mewn astudiaethau ymchwil, ni fyddai'r triniaethau a'r gofal gwell hyn yn bodoli.

Mae nifer o ffyrdd y gall pobl gymryd rhan mewn ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol fel rhan o'r astudiaeth ymchwil - er enghraifft, derbyn triniaeth newydd, ateb holiaduron, rhoi cydsyniad i ymchwilwyr edrych ar gofnodion meddygol, helpu i nodi'r ymchwil bwysicaf, neu helpu i gynllunio'r ffordd y caiff yr ymchwil ei gynnal.

Mae ymchwil yn rhan arferol o driniaeth a gofal yn GIG Cymru; trafodwch pa astudiaethau ymchwil sydd ar gael i chi yn BIP CTM gyda'ch clinigydd. Os ydych chi'n glaf gyda ni, efallai y bydd gofyn i chi gan weithiwr proffesiynol ym maes gofal iechyd, neu y bydd aelod o'r tîm ymchwil yn cysylltu â chi, i weld a hoffech chi gymryd rhan mewn astudiaeth ymchwil. Rydym hefyd yn derbyn hunan-atgyfeiriadau ar gyfer yr astudiaethau canlynol:

Sut rydym yn defnyddio eich data

I ddarganfod sut rydym yn defnyddio gwybodaeth cleifion mewn ymchwil iechyd a gofal, dilynwch y ddolen isod:

Dilynwch ni: