Mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol CTM bortffolio ymchwil masnachol ac anfasnachol amrywiol ac egnïol iawn a gefnogir gan wasanaeth ymchwil pwrpasol. Cynhelir gweithgaredd ymchwil ym mhob un o'r tri Safle Ysbyty Acíwt, mewn Ysbytai Cymunedol ac mewn gofal Sylfaenol, ar draws pob arbenigedd a phroffesiwn.
Mae arbenigeddau sydd â hanes o gyflawni ymchwil fasnachol yn cynnwys Cardioleg, Dermatoleg a Gofal Sylfaenol. Mae'r tîm Ymchwil a Datblygu yn cefnogi cydweithwyr sy'n ymchwilio'n weithredol mewn Rhiwmatoleg, Meddygaeth (niwroleg), Endocrinoleg, Clust, Trwyn a Gwddf, Deieteg, Ffisiotherapi, Gynaecoleg a Seiciatreg (Dementia) i ddatblygu eu portffolios ymchwil fasnachol.
Mae gan BIP CTM brofiad helaeth o gydweithio â Byrddau Iechyd eraill fel rhan o ddulliau ‘Un Gymru’ a dulliau rhanbarthol sy’n defnyddio model prif ganolfan a lloerennau i sefydlu ymchwil. Mae gan dîm Ymchwil a Datblygu brofiad helaeth o ddefnyddio Offeryn Costio Rhyngweithiol (iCT) NIHR a’r broses Adolygu Gwerth Contractau Cenedlaethol (NCVR), ac mae’r tîm yn gweithio’n unol â chontractau enghreifftiol cenedlaethol. Mae'r tîm yn cymryd rhan mewn fforymau cenedlaethol er mwyn cadw i fyny â datblygiadau a gwelliannau cenedlaethol. Mae'r Adran Ymchwil a Datblygu wedi caffael system Florence ar gyfer ffeiliau safle electronig.
Fel sefydliad sy'n weithgar ym maes ymchwil, rydym mewn sefyllfa unigryw i gydweithio a rhannu adnoddau â nifer o bartneriaid academaidd, gan gynnwys Prifysgolion Caerdydd, Abertawe, Metropolitan Caerdydd, y Drindod Dewi Sant, y Brifysgol Agored a Phrifysgol De Cymru. Mae defnyddio perthnasoedd presennol gyda'n partneriaid academaidd yn rhoi cyfle i wneud y gorau o'r broses o gyfeirio at ymchwil a recriwtio ar gyfer ymchwil, e.e. Mae Clwb Iechyd Clinigol Perthynol Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn darparu ystod o wasanaethau clinigol, gan gynnwys podiatreg, asesu a thrin cyflyrau cyhyrysgerbydol, llawdriniaeth ar yr ewin, clinig anafiadau dan arweiniad ffisiotherapyddion, clinig dieteteg, a chlinigau therapi iaith a lleferydd. Gall partneriaid academaidd hefyd gyfrannu at ddarparu ymchwil ymyriadol fasnachol drwy ddarparu gwasanaethau cymorth, e.e. y Gwasanaeth Sganio DXA ym Mhrifysgol De Cymru.
Mae BIP CTM yn cyrraedd targedau recriwtio yn gyson, gyda 100% o astudiaethau yn cyrraedd y targed recriwtio erbyn diwedd yr astudiaeth. Mae gan y sefydliad enw da rhagorol am ymchwilio i ddyfeisiau meddygol, gan gyfrannu'r nifer mwyaf o gyfranogwyr i astudiaeth RAPTURE yn y DU a bod y prif gyfrannwr yng Nghymru i astudiaeth FALCON yn ystod pandemig Covid.
Mae cryfderau ymchwil allweddol yn cynnwys cardiofasgwlaidd (methiant y galon, strôc), anaesthetig / meddygaeth gofal dwys, iechyd cyhoeddus, CAMHS, rhiwmatoleg, gastroenteroleg, bioddangosyddion, canser, obstetreg a gynaecoleg, llawfeddygaeth, endocrinoleg, mamolaeth, dyfeisiau meddygol, dermatoleg, meddygaeth chwaraeon / podiatreg, dieteteg, a gwasanaethau'r gweithlu a phobl. Rydym yn ymdrechu'n barhaus i gynyddu ein portffolio ymchwil ac i ehangu i feysydd clinigol ychwanegol.
Cadarnhaodd gwerthusiad a chafodd ei gyflawni yn 2024 fod y cyfranogwyr a recritiwyd i gyflawni gweithgareddau ymchwil a datblygu – gan gefnogi astudiaethau ymchwil mewn gofal eilaidd yn BIP CTM - yn cynrychioli poblogaeth CTM o ran oedran, rhywedd a chwintel amddifadedd.