Neidio i'r prif gynnwy

Newidiadau i'r Gwasanaethau Mamolaeth

Mae’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi am y newidiadau diweddar i’r gwasanaethau mamolaeth yn ardal Ysbyty Brenhinol Morgannwg i’w gweld isod.

Os oes unrhyw gwestiynau pellach gyda chi, bydd eich bydwraig neu eich obstetrydd ymgynghorol yn gallu esbonio’r newidiadau hyn i chi yn ogystal â sut y gallen nhw effeithio arnoch chi.

 

Beth sydd wedi newid yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg a pham?

Ychydig flynyddoedd yn ôl, roedd ymgynghoriad cyhoeddus mawr o’r enw Rhaglen De Cymru oedd yn edrych ar ddyfodol gwasanaethau mamolaeth ar draws De Cymru. Oherwydd anawsterau gyda staffio meddygol, penderfynwyd nad oedd modd darparu rhai gwasanaethau dan arweiniad meddygon arbenigol ym mhob un ysbyty yn yr ardal.

Mae canlyniad yr ymgynghoriad hwn yn golygu na fydd gwasanaethau i fenywod sy’n debygol o fod angen gofal dan arweiniad meddyg wrth roi genedigaeth neu i fabanod y mae angen gofal amenedigol arbenigol arnyn nhw, yn cael eu darparu yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn Llantrisant o 9 Mawrth 09 ymlaen. Bydd y gwasanaethau hyn yn cael eu darparu yn Ysbyty’r Tywysog Siarl ym Merthyr Tudful ac yn Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn lle.

 

Dydy hyn ddim yn golygu nad oes unrhyw wasanaethau mamolaeth yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg.

Mae gwasanaethau mamolaeth yn dal i gael eu darparu yno 24 awr y dydd ond maen nhw’n cael eu darparu gan fydwragedd yn yr Uned Annibynnol dan arweiniad Bydwragedd yn hytrach na meddygon.
Mae’r holl wasanaethau cyn-geni, apwyntiadau clinig, sganiau a phrofion yn ystod beichiogrwydd yn dal i fod ar gael. Yr unig wahaniaeth yw’r gwasanaethau sydd ar gael i chi pan fyddwch chi’n rhoi genedigaeth.

Gallwch ddewis ble fyddwch chi’n cael eich babi, ond os bydd cymhlethdodau wrth i chi roi genedigaeth neu os bydd angen gofal dan arweiniad meddyg arnoch chi wrth roi genedigaeth, bydd rhaid i chi roi genedigaeth yn Ysbyty’r Tywysog Siarl neu Ysbyty Tywysoges Cymru. Gallwch chi drafod lle hoffech chi roi genedigaeth â’ch bydwraig a’ch obstetrydd.

I baratoi ar gyfer y newidiadau hyn, rydyn ni wedi buddsoddi £6m mewn uned newydd o’r radd flaenaf yn Ysbyty’r Tywysog Siarl. Arweiniodd hyn at gynyddu maint yr uned gofal arbennig i fabanod, datblygu dwy theatr famolaeth newydd a chreu ystafelloedd geni gydag ystafelloedd ymolchi fydd yn cynnwys un pwll geni ar gyfer menywod sy’n cael gofal dan arweiniad meddyg. Yn ogystal â hynny, mae Canolfan Tair Afon, sef cyd-uned dan arweiniad bydwragedd sydd newydd gael ei hadnewyddu. Mae ganddi nifer o ystafelloedd geni a phyllau geni.
 

Felly beth yw fy opsiynau o ran rhoi genedigaeth?

*Yn y cartref, lle byddwch chi’n cael cymorth gan ein tîm arbenigol o fydwragedd cymunedol.

*Yn Uned Bydwreigiaeth Annibynnol Tirion yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Yma, bydd modd i chi roi genedigaeth mewn amgylchedd cartrefol a chael profiad o enedigaeth mewn dŵr gyda bydwragedd yn weithwyr proffesiynol arweiniol. Fydd dim meddygon yn yr Uned, felly os bydd unrhyw gymhlethdodau, er bod hynny’n annhebygol, bydd angen i ni eich trosglwyddo chi mewn ambiwlans i uned dan arweiniad meddygon.

*Y cyd-uned dan arweiniad bydwragedd, o’r enw Canolfan Geni Tair Afon, yn Ysbyty’r Tywysog Siarl. Mae hon hefyd yn cynnig amgylchedd cartrefol gyda dau bwll geni. Bydwragedd fydd prif weithwyr proffesiynol y gwasanaeth hwn. Fydd dim meddygon yn yr uned hon, ond mae’r uned yn agos at yr uned dan arweiniad meddygon felly os bydd unrhyw gymhlethdodau gyda chi, bydd modd i ni eich trosglwyddo chi yn hawdd os bydd angen.

*Yr Uned Obstetreg dan Arweiniad Ymgynghorwyr yn Ysbyty’r Tywysog Siarl neu yn Ysbyty Tywysoges Cymru, lle bydd gofal yn cael ei ddarparu gan fydwragedd a meddygon.

 

Ydy hi’n ddiogel cael fy mabi yn un o’r unedau dan arweiniad bydwragedd?

I fenywod sydd dan risg isel o gael cymhlethdodau, mae rhoi genedigaeth yn ddiogel iawn i’r fenyw a’i babi yn gyffredinol. Yn ôl tystiolaeth genedlaethol gan NICE (2014) a’r astudiaeth ymchwil fwyaf hyd yma, ‘The Birth Place Study’, mae unedau dan arweiniad bydwragedd yn ddiogel i fenywod a babanod mewn achosion lle nad oes cymhlethdodau yn ystod genedigaeth a’u bod yn cael budd ohonyn nhw. Byddwch chi wedi cael taflen ynglŷn â hyn yn eich apwyntiad trefnu.

Yn ystod eich beichiogrwydd, cewch chi lawer o gyfleoedd i drafod eich opsiynau genedigaeth â'ch bydwraig. Bydd hyn yn cychwyn o gamau cynnar eich beichiogrwydd, gan roi digon o amser i chi drafod unrhyw gwestiynau sydd gyda chi.

Mae ymchwil wedi dangos bod ‘canlyniadau niweidiol’ i fabanod yn anarferol ym mha le bynnag mae’r fenyw yn rhoi genedigaeth, ac yn gyffredinol mae’n digwydd mewn 4 neu 5 genedigaeth ymhob 1,000. Ar ôl cyhoeddi canfyddiadau’r ‘Birth Place Study’, mae NICE (2014) bellach yn awgrymu bod menywod sy’n cael beichiogrwydd ‘risg isel’ yn rhoi genedigaeth gartref neu mewn uned dan arweiniad bydwragedd.

Os nad ydych chi wedi cael copi o’r daflen hon, gofynnwch i’ch bydwraig am gopi a bydd yn ddigon hapus i anfon un atoch chi. Gallwch chi hefyd gael rhagor o wybodaeth am ganfyddiadau ‘The Birth Place Study’ ar www.npeu.ox.ac.uk/birthplace.

 

Sut fydda i’n gwybod a yw fy meichiogrwydd yn un ‘risg isel’?

Mae canllawiau clir iawn ynghylch ystyr ‘risg isel’ ac mae asesiadau parhaus yn ein galluogi ni i nodi pwy sy’n addas i roi genedigaeth ar safle dan arweiniad bydwragedd. Bydd eich bydwraig yn gallu trafod hyn â chi yn fanwl yn ystod eich beichiogrwydd.

Mae pob cynllun gofal yn cael ei adolygu’n barhaus ac os ydych chi ar gynllun gofal dan arweiniad bydwragedd ac os bydd unrhyw beth yn newid, bydd yn cael ei atgyfeirio at obstetrydd ymgynghorol i’w adolygu. Os ydych chi’n ‘risg isel’, bydd dewis gyda chi o hyd o blith cael eich babi yn yr uned dan arweiniad ymgynghorydd yn Ysbyty’r Tywysog Siarl os mai dyma sy’n well gyda chi.

 

Beth os bydda i’n dewis rhoi genedigaeth yn yr uned dan arweiniad bydwragedd yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg ond bydd angen i mi gael fy nhrosglwyddo?

Ambell waith, bydd rhaid trosglwyddo menywod i uned dan arweiniad meddyg yn ystod beichiogrwydd. Rydyn ni’n gwybod bod rhwng 12 a 15 o bobl 100 o fenywod yn cael eu trosglwyddo o unedau tebyg yn ystod beichiogrwydd a bod tua hanner y rhain yn famau am y tro cyntaf.

Pan fydd trosglwyddiadau yn digwydd ‘yn ystod beichiogrwydd’, dydy’r mwyafrif llethol (ymhell dros 95%) ddim yn digwydd oherwydd digwyddiadau sy’n bygwth bywyd. Y rheswm mwyaf cyffredin dros drosglwyddo menywod yw nad yw eu beichiogrwydd wedi dod yn ei flaen cymaint ag y bydden am ei weld.

Os bydd hyn yn digwydd, sy’n annhebygol, byddwch chi’n cael eich trosglwyddo mewn ambiwlans i Ysbyty Tywysoges Cymru neu Ysbyty’r Tywysog Siarl.

Rydyn ni wedi gweithio’n agos â’n cydweithwyr yng Ngwasanaeth Ambiwlans Cymru ac mae trefniadau ar waith i sicrhau bod y broses drosglwyddo mor llyfn â phosibl. Bydd bydwraig yn mynd gyda chi yn yr ambiwlans bob tro os bydd rhaid eich trosglwyddo chi yn ystod beichiogrwydd.

 

Beth fydd yn digwydd os bydd fy mabi’n cael ei eni yn yr Uned dan arweiniad Bydwragedd yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg ond bydd angen gofal arbenigol arno?

Mae ein bydwragedd tra medrus wedi cael hyfforddiant i roi’r gofal addas i bob babi pan fydd yn cael ei eni. Bydd angen gofal newyddenedigol ar lai nag 1% o fabanod. Yn aml, mae modd rhagweld hyn yn ystod beichiogrwydd neu’n gynnar yn ystod y geni. Yn yr achos hwn, byddwch chi’n cael gofal neu’n cael eich trosglwyddo i uned dan arweiniad ymgynghorydd.

Yn yr achosion prin iawn hynny lle bydd angen gofal newyddenedigol ar fabi sy’n cael ei eni mewn uned dan arweiniad bydwragedd, mae ein bydwragedd wedi cael eu hyfforddi i sefydlogi’r babi a byddan nhw’n eich trosglwyddo chi a’r babi i uned newyddenedigol addas ar y cyd â’n cydweithwyr yn y Gwasanaeth Ambiwlans. Yn yr achosion eithriadol o brin hynny pan fydd angen gofal tra arbenigol ar y babi, bydd yn cael ei drosglwyddo i’r uned newyddenedigol yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd.

 

Beth ddylwn i ei wneud nawr?

Does dim angen i chi wneud unrhyw beth nawr. Byddwn ni’n rhoi diweddariadau i chi yn ystod eich beichiogrwydd a byddwn ni’n rhoi’r holl wybodaeth ac arweiniad y bydd eu hangen arnoch chi i wneud y penderfyniad cywir i chi a’ch babi.

Does dim rhaid i chi benderfynu lle byddwch chi’n cael eich babi cyn wythnos 36 neu 37 eich beichiogrwydd, felly am y tro dylech chi ymlacio, mwynhau eich beichiogrwydd a gadael i ni edrych ar eich hôl nes hynny.

Os oes unrhyw bryderon gyda chi yn y cyfamser, bydd eich bydwraig yn hapus i’w trafod nhw â chi.

Dilynwch ni: