Llongyfarchiadau ar eich beichiogrwydd
Bydd y tîm mamolaeth yn cysylltu â chi cyn bo hir i drefnu apwyntiad gyda chi. Yn y cyfamser, edrychwch ar y wybodaeth hon fel y gellir ei thrafod yn ystod eich apwyntiad cyntaf.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â chanolfan geni Tirion ar 01443443524.
Os oes gennych unrhyw bryderon iechyd beichiogrwydd:
Cyn 16 wythnos cysylltwch â'ch meddyg teulu am gyngor pellach
|
Ysbyty'r Tywysog Siarl 01685 728894 Ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener 08:30-16:30 |
Ysbyty Brenhinol Morganwg 01443 443230 O dydd Llun i ddydd Gwener 08:30-16:30 |
Ysbyty Tywysoges Cymru 01656 754030 O dydd Llun i ddydd Gwener 09:00-13:00 |
Os oes gennych unrhyw symptomau difrifol o boen a gwaedu, rydym yn eich cynghori i fynychu'r Adran Damweiniau ac Achosion Brys yn Ysbyty'r Tywysog Siarl neu Ysbyty Tywysoges Cymru.
Ar ôl 16 wythnos cysylltwch â:
Uned Mamolaeth Flaenoriaeth:
Ysbyty’r Tywysog Siarl
07442865989
Ysbyty Tywysoges Cymru:
01656 753652
Asid ffolig yn ystod beichiogrwydd cynnar:
Asid ffolig yn ystod beichiogrwydd
Yn ddelfrydol, dylid cymryd asid ffolig pan fyddwch chi'n ceisio beichiogi neu cyn gynted ag y byddwch chi'n darganfod eich bod chi'n feichiog. Rydym yn argymell eich bod chi'n cymryd:
400 microgram o asid ffolig bob dydd
Cymerwch asid ffolig am y 12 wythnos gyntaf o feichiogrwydd.
Mae'n bwysig cymryd atchwanegiad asid ffolig yn ystod beichiogrwydd gan ei bod hi'n anodd cael y swm sydd ei angen arnoch o fwyd yn unig.
Mae cymryd asid ffolig yn ystod y cyfnod hwn yn lleihau'r siawns y bydd gan eich babi nam tiwb niwral (problem gyda'r ymennydd neu'r asgwrn cefn, neu'r ddau) fel spina bifida. Gall hefyd helpu i atal problemau eraill, fel gwefus a thaflod hollt neu rai cyflyrau'r galon.
Siaradwch â'ch bydwraig neu'ch meddyg teulu os oes gennych unrhyw gwestiynau am gymryd asid ffolig.
Yn ystod yr apwyntiad, bydd y fydwraig yn trafod eich beichiogrwydd ac yn trafod cydsyniad ar gyfer eich uwchseiniau a'ch profion gwaed. Er mwyn sicrhau eich bod yn deall y dewisiadau ar gyfer profion sgrinio, gweler y ddolen hon ar gyfer profion sgrinio yn ystod beichiogrwydd a gwyliwch y fideo ar brofion sgrinio ar gyfer Syndrom Down, Syndrom Edwards a Syndrom Patau’s.
https://icc.gig.cymru/app/uploads/sites/2/2025/07/Profion-sgrinio-cyn-geni.pdf
Fitaminau yn ystod beichiogrwydd
Bwydydd i’w hosgoi
https://www.nhs.uk/pregnancy/keeping-well/foods-to-avoid/
Hoffech chi gael mwy o wybodaeth am feichiogrwydd?
Cliciwch ar y ddolen hon i gael mynediad i'n gwefan i ddod o hyd i unrhyw wybodaeth y gallech fod ei hangen.
https://bipctm.gig.cymru/gwasanaethau/mamolaeth/
Os hoffech chi rannu eich profiadau a'n helpu ni i lunio gofal mamolaeth o fewn Mamolaeth CTM cysylltwch â CTM.MNVP@wales.nhs.uk.