Beth rydyn ni’n ei wneud
Rydym yn darparu gwasanaeth arbenigol i gefnogi anghenion iechyd meddwl menywod sy'n profi salwch amenedigol ac yn hyrwyddo diogelwch a lles mamau sy'n profi salwch meddwl trwy eu taith o'r cyfnod cyn cenhedlu a beichiogrwydd i fod yn rhiant.
Mae’r Gwasanaeth Iechyd Meddwl Amenedigol yn arbenigo mewn asesu, diagnosis, triniaeth ac ymyrraeth therapiwtig i fenywod. Nod y gwasanaeth yw hyrwyddo cyfle pob mam i gael profiad cadarnhaol o'r berthynas rhwng mam a babi, tra'n cynnwys partneriaid ac unigolion eraill sy'n rhan o'r daith.
I bwy mae’r gwasanaeth?
Menywod beichiog sydd wedi dioddef o salwch meddwl yn y gorffennol a menywod sy’n gyda salwch meddwl sy’n fam i blentyn dan 12 mis oed.
Mae’r gwasanaeth ar gyfer oedolion sy’n 18 oed neu’n hŷn, ond bydd yn cysylltu â Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc, pan fydd yn briodol, pan fydd pobl dan 18 oed yn dod at y gwasanaeth..
Rydym hefyd yn darparu cyngor arbenigol i weithwyr proffesiynol eraill.
All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?
Bydd angen atgyfeiriad arnoch gan eich meddyg teulu, ymwelydd iechyd, bydwraig, gwasanaethau iechyd meddwl sylfaenol neu wasanaethau iechyd meddwl eilaidd.
Mae ein Gwasanaeth Dyletswydd yn darparu cymorth, cyngor ac arweiniad dros y ffôn i weithwyr proffesiynol ac aelodau'r cyhoedd.
Rydym yn eich annog i gysylltu â'r tîm cyn cyflwyno atgyfeiriad.
Gallwch ffonio os ydych chi'n chwilio am gymorth i chi'ch hun, anwylyd neu mewn swyddogaeth broffesiynol.
Amseroedd agor
Oriau craidd 9am - 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener ac eithrio gwyliau banc
Mae opsiwn i adael neges lais y tu allan i’r oriau craidd hyn
Beth i'w ddisgwyl
Bydd mamau yn mynd at weithiwr iechyd meddwl proffesiynol i gael asesiad ac mae’n bosibl y byddan nhw’n cael cymorth pellach gan therapydd galwedigaethol, nyrs iechyd meddwl, seicolegydd clinigol a/neu seiciatrydd. Fel arall, bydd y gwasanaeth yn gyswllt i gymorth argyfwng neu waith cynllunio gofal a thriniaeth.
Bydd y gwasanaeth yn darparu cynlluniau geni integredig cynhwysfawr i fenywod (a’u timau gofal) sydd dan risg uchel o gymhlethdodau iechyd meddwl difrifol yn fuan cyn y geni, yn ystod y geni ac ar ôl y geni. Mae hyn yn cynnwys menywod gyda diagnosis presennol o salwch meddwl difrifol gan gynnwys anhwylder affeithiol deubegwn/salwch seicotig neu hanes o salwch amenedigol neu salwch meddwl difrifol.
Cysylltwch â ni
Gwasanaeth Iechyd Meddwl Amenedigol
71 Heol y Chwarel
Pen-y-bont ar Ogwr
CF31 1JS
Adnoddau defnyddiol eraill
Efallai y bydd y taflenni canlynol yn eich cefnogi ac yn cynnig amrywiaeth o daflenni gan gynnwys gwybodaeth am iechyd meddwl yn ystod beichiogrwydd, iselder ôl-enedigol, OCD yn ystod beichiogrwydd, seicosis a thocoffobia
Apps
Dad's Information
Podcasts