Neidio i'r prif gynnwy

Pwy ydym ni?

Beth yw Seicolegydd Clinigol?

Mae Seicolegydd Clinigol wedi'i hyfforddi i ddeall sut mae plant a phobl ifanc yn meddwl, yn teimlo ac yn ymddwyn. Rydyn ni’n gwrando ar eu pryderon ac yn helpu plant, pobl ifanc a'u teuluoedd i ymdopi â’r anawsterau sy'n gallu deillio o gael triniaeth neu gyflwr meddygol. Rydyn ni'n ceisio deall eu sefyllfa a'u helpu i wneud newidiadau cadarnhaol. Rydyn ni’n gweithio gyda gweddill y tîm yn yr ysbyty gan gynnwys eich meddygon, eich nyrsys, a'ch therapyddion. Mae Seicolegwyr Clinigol dan hyfforddiant yn gweithio gyda ni hefyd. Efallai y byddwch chi’n ein gweld ni mewn Clinigau Plant.

Cyfarfod â’r Tîm

Dr Jess Broughton

Dr Bethan Phillips

Seicolegydd Clinigol Ymgynghorol mewn Pediatreg

Dr Jess Broughton

Seicolegydd Clinigol mewn Diabetes Pediatrig

"Helo, fy enw i yw Bethan. Fi yw Arweinydd y Gwasanaeth Seicoleg Glinigol Pediatrig. Rydw i'n rheoli'r gwasanaeth ac yn gweithio'n uniongyrchol gyda phlant a theuluoedd yn ein gwasanaeth pediatreg cyffredinol. "Helo, fy enw i yw Jess. Fi yw'r Seicolegydd Clinigol ar gyfer y gwasanaeth diabetes pediatrig. Rydw i'n gweithio gyda phlant sydd â diabetes a'u teuluoedd ar draws ardal Cwm Taf Morgannwg."
Dilynwch ni: