Neidio i'r prif gynnwy

lFfisiotherapi Cyhyrysgerbydol

I bwy mae’r gwasanaeth?

Mae'r gwasanaeth ffisiotherapi cyhyrysgerbydol ar gyfer pobl 16 oed a hŷn â chyflyrau cyhyrysgerbydol  Mae cyflyrau cyhyrysgerbydol yn ymwneud ag esgyrn, cyhyrau a chymalau.

Os ydych yn byw o fewn dalgylch Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg gallwch gael eich atgyfeirio atom gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol neu gallwch atgyfeirio eich hun.

Beth sydd angen i mi ei wybod?

Does dim angen triniaeth ar lawer o gyflyrau cyhyrysgerbydol (MSK) a gallan nhw wella gyda beth sy’n cael ei galw yn 'hunan-reolaeth' sy'n disgrifio'r pethau y gallwch eu gwneud i helpu eich hun.  Os ydych chi eisiau gwybod mwy am hyn gallwch ddilyn y ddolen hon.

Mae ffisiotherapi yn ddull triniaeth sy'n canolbwyntio ar sut mae'r corff yn ymateb i symudiad a gweithgarwch.  Mae tystiolaeth ymchwil yn dweud wrthym fod ymarfer corff a rhoi sylw i sut rydym yn symud yn ffordd effeithiol o drin y rhan fwyaf o gyflyrau MSK.

Ymarfer corff priodol yw'r 'feddyginiaeth' sy'n cael ei gynghori amlaf gan Ffisiotherapyddion.  Gall triniaethau fel symud neu drin cymalau a thriniaeth ymarferol fod o gymorth i rai ond ni fydden nhw’n cael eu cynnig heb gynllun symud ac ymarfer corff ochr yn ochr ag ef.

Os ydych yn dod i weld Ffisiotherapydd gallwch ddisgwyl i weithgarwch ac ymarfer corff dyddiol gael eu trafod.  Bydd eich Ffisiotherapydd yn eich helpu i ddeall beth sy'n ddiogel ac yn briodol i chi a'ch cyflwr.

Nid yw'r gwasanaeth yn gofyn am ymchwiliadau ar ran gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill.  Gall eich meddyg teulu ofyn am ymchwiliadau ar gyfer rhai cyflyrau. Mae gwasanaeth Ffisiotherapi MSK yn derbyn atgyfeiriadau ar gyfer pobl sydd angen asesu a rheoli eu cyflwr.  Gall ffisiotherapyddion wneud penderfyniadau ynghylch a oes angen unrhyw ymchwiliadau ai peidio a byddan nhw’n ystyried hyn fel rhan o'r cynllun cyffredinol ar gyfer rheoli eich cyflwr.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Byddwn yn gweithio gyda chi i ddeall eich anghenion a'ch dewisiadau a sut y gallwn eich cefnogi.  I wneud hyn byddwn yn casglu gwybodaeth yn y ffyrdd canlynol.

  • Beth rydych chi'n ei ddweud wrthym amdanoch chi'ch hun.
  • Beth mae eich meddyg neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol yn ei ddweud wrthym.
  • Beth y gallwn ei ddarganfod trwy asesiad pellach fel archwiliad corfforol.
  • Weithiau mae profion ychwanegol yn cael eu defnyddio i helpu gyda diagnosis ac i gynllunio triniaeth ond yn aml mae'r asesiad corfforol yn dweud wrthym bopeth sydd angen i ni ei wybod.

Byddwn yn trafod gyda chi beth yw eich dewisiadau, sut y gallwn eich helpu chi a beth allwch chi ei wneud i helpu eich hun. Byddwn yn anelu at gytuno ar gynllun gyda chi sy'n ystyried beth sy'n bwysig i chi.

Cysylltwch â ni:

Canolfan ffisiotherapi: 01443 715012              Dolen/ffurflen hunan-atgyfeirio

Dilynwch ni: