Neidio i'r prif gynnwy

Hunangyfeirio at y Gwasanaeth Ffisiotherapi Cyhyrysgerbydol

Dim ond hunan-atgyfeiriadau sy'n dod o fewn dalgylch Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg y gallwn ni eu derbyn

Nid yw hon yn ffurflen hunan-atgyfeirio Ffisiotherapi Iechyd Pelfis. Ar gyfer Ffisiotherapi Iechyd y Pelfis, cysylltwch â 01443 715012

Diolch am ddefnyddio'r ffurflen hon i hatgyfeirio'ch hun at Wasanaeth Ffisiotherapi Cyhyrysgerbydol BIP Cwm Taf Morgannwg. Mae hwn yn wasanaeth ffisiotherapi cyhyrysgerbydol sydd wedi'i gynllunio i asesu a chefnogi pobl sy'n cael trafferth gyda phoen/anaf yn y cymalau/neu feinwe meddal sy'n effeithio ar weithrediad. 
 
Bydd eich atgyfeiriad yn cael ei adolygu a'i ychwanegu at y rhestr aros. Os oes angen, efallai y bydd ffisiotherapydd yn cysylltu â chi dros y ffôn i egluro'r wybodaeth rydych wedi'i darparu. Yna byddwch chi'n derbyn llythyr/bydd rhywun yn eich ffonio i'ch gwahodd i drefnu apwyntiad, felly sicrhewch fod eich manylion cyswllt yn gywir. 
 
Yn ddelfrydol, dylai'r atgyfeiriad hwn gael ei gwblhau gan yr unigolyn dan sylw. Os ydych yn cwblhau hyn ar ran rhywun o dan 10 oed, trefnwch apwyntiad gyda'ch meddyg teulu yn lle hynny. Gall atgyfeirio at ffisiotherapi os yw'n briodol.  
 
Os ydych yn weithiwr gofal iechyd proffesiynol sy'n atgyfeirio claf, peidiwch â defnyddio'r dull hwn o atgyfeirio, defnyddiwch WCCG. 

Datganiad preifatrwydd 
 
Byddwn ond yn defnyddio'r wybodaeth rydych wedi'i darparu at ddiben treialu eich atgyfeiriad a'ch ychwanegu at y rhestr aros briodol. Am ragor o wybodaeth am sut mae'r bwrdd iechyd yn defnyddio eich data personol gweler ein Hysbysiad Preifatrwydd yma: https://bipctm.gig.cymru/use-of-site/datganiad-preifatrwydd/ 
Drwy gyflwyno'r ffurflen hon fe wnaethoch gytuno i'ch data gael ei ddefnyddio at y dibenion hyn. 

Os yn cyfeirio oherwydd poen cefn, cyn parhau, gwyliwch y fideo yma! Os oes gennych unrhyw symptomau a drafodwyd yn y fideo o 1 munud 20 eiliad ymlaen, gofynnwch am gyngor meddygol ar frys!

 
Dilynwch ni: