Mae’r Gwasanaeth Ffisiotherapi Niwrolegol yn arbenigo ar drin pobl gyda chyflwr niwrolegol o ganlyniad i niwed i’w hymennydd, eu hasgwrn cefn neu eu nerfau.
Mae’r rhain yn cynnwys cyflyrau fel strôc, sglerosis gwasgaredig a chlefyd Parkinson yn ogystal â llawer o gyflyrau eraill sy’n llai cyffredin.
Bwriad y gwasanaeth yw gwella gweithrediadau pobl. Mae’r gwasanaeth yn cael ei ddarparu trwy sesiynau un wrth un neu drwy sesiynau grŵp. Cewch chi raglen gynhwysfawr i adsefydlu drwy ymarfer corff yn y cartref, fydd yn eich helpu chi i adsefydlu’n annibynnol ac yn rhoi’r sgiliau i chi allu trin eich cyflwr eich hun.
Mae’r gwasanaeth hwn ar gyfer oedolion gyda chyflyrau niwrolegol. Bydd angen i chi allu mynd i apwyntiad claf allanol yn rheolaidd.
Bydd angen atgyfeiriad arnom ni gan weithiwr iechyd proffesiynol yn gyntaf. Pan fyddwch chi’n hysbys i ni, gallwch chi gyfeirio eich hun at y gwasanaeth pan fydd angen.
Amseroedd agor
Ysbyty Tywysoges Cymru: Dydd Llun, Dydd Mawrth, Dydd Iau a Dydd Gwener 08:30 – 16:30,
Ysbyty Dewi Sant: Dydd Llun, Dydd Mercher, Dydd Iau a Dydd Gwener 08:30 – 16:30
Pan fyddwn ni’n cael ei atgyfeiriad, byddwn ni’n anfon llythyr atoch chi yn y post gyda dyddiad erbyn pryd y dylech chi ein ffonio ni. Yn ystod ein galwad ffôn, bydd angen i ni holi ambell gwestiwn ynglŷn â’ch cyflwr. Os bydd angen, byddwn ni’n cynnig yr apwyntiad nesaf i chi sydd ar gael.
Yn ystod yr apwyntiad cyntaf, byddwn ni’n asesu eich problemau a’ch galluoedd ac yn cymryd mesuriadau cychwynnol.
Yna, byddwn ni’n trafod nodau a chynllun triniaeth i wella neu drin eich sefyllfa.
Bydd pob sesiwn yn para tua 45 munud.
Ein nod yw cwblhau’r cyfnod o ffisiotherapi mewn 6 sesiwn.
Ysbyty Tywysoges Cymru
Rhif ffôn: 01656 754390
Ysbyty Dewi Sant
Rhif ffôn: 01443 443443 – Estyniad 75881