Neidio i'r prif gynnwy

Ffisiotherapi Plant (Ffisiotherapi Paediatrig)

Mae'r gwasanaeth Ffisiotherapi Plant (Ffisiotherapi Paediatrig) yn gweld babanod, plant a phobl ifanc o 0 i 18 oed, sy'n profi oedi yn eu datblygiad neu'n cael eu heffeithio gan anaf, salwch neu anabledd.

Rydym yn helpu i wella neu adfer symud, cryfder, swyddogaeth ac annibyniaeth. Yn ogystal â'n sgiliau arbenigol, mae gennym wybodaeth arbenigol ychwanegol a phrofiad o ddatblygiad plant, symud, anafiadau plentyndod ac anableddau plentyndod.

Rydym yn gweld plant a phobl ifanc ar y safleoedd canlynol:

  • Canolfan y Plant, Ysbty Cwm Cynon, Aberpennar
  • Clinig Carnegie, Trealaw
  • Canolfan y Plant, Ysbyty Brenhinol Morgannwg
  • Canolfan y Plant, Ysbyty Tywysoges Cymru

I bwy mae’r gwasanaeth?

Rydym yn gweld plant a phobl ifanc ag amrywiaeth o gyflyrau gan gynnwys:

  • Anhwylderau niwrogyhyrol e.e. Dystroffi'r Cyhyrau
  • Cyflyrau niwrolegol e.e. Parlys yr Ymennydd, anaf i'r pen, Spina Bifida
  • Cyflyrau anadlol e.e. Ffibrosis Systig
  • Cyflyrau rhiwmatolegol e.e. arthritis idiopathig ymhlith ieuenctid Arthritis
  • Cyflyrau orthopedig e.e. Troed clwb, Clefyd Perthes, Dysplasia'r glun
  • Problemau cyhyrysgerbydol e.e. Pengamedd (Torticollis), ysigiadau, poen yn y cymalau
  • Syndromau cynenedigol e.e. Syndrom Down, Syndrom Pradar-Willi
  • Oediad datblygiadol, sy'n effeithio ar sut mae'ch plentyn yn symud

All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Gall eich plentyn gael ei atgyfeirio gan ymgynghorydd, meddyg teulu, ymwelydd iechyd neu weithiwr iechyd proffesiynol arall y mae’n hysbys iddo. Bydd plant 10 oed a throsodd sy'n cael anawsterau gyda'u cyhyrau, esgyrn neu gymalau (problemau cyhyrysgerbydol ac orthopedig) yn cael eu gweld gan y gwasanaeth oedolion. Rydym hefyd yn derbyn hunan-atgyfeiriad gan rieni a gellir gwneud hyn trwy gysylltu â'n gwasanaeth yn Ysbyty Tywysoges Cymru neu Ysbyty Cwm Cynon neu gallwch e-bostio eich pryderon atom yn CTT_PaedPhysio_Referral@wales.nhs.uk

Beth i'w ddisgwyl

Yn dibynnu ar y wybodaeth rydym yn derbyn efallai y byddwn yn cysylltu â chi’n uniongyrchol i drafod eich pryderon fel y gallwn arwain ein hymateb orau ac, os oes angen, darparu gwybodaeth a strategaethau i chi i gefnogi eich plentyn tra’n aros am apwyntiad.

Gallai eich plentyn gael cynnig apwyntiad asesu yn un o'n canolfannau plant. Mae'n bwysig bod person â chyfrifoldeb rhiant yn mynd gyda'r plentyn i'r apwyntiad hwn er mwyn cael cydsyniad ar sail penderfyniad cytbwys ar gyfer asesiad a thriniaeth. Mae cydweithio'n bwysig o'r cychwyn cyntaf er mwyn helpu i wneud y gorau o alluoedd corfforol ac annibyniaeth eich plentyn.

Yn ystod yr asesiad byddwn yn edrych ar unrhyw anawsterau y mae eich plentyn yn ei gael gyda'i symud a sut mae hyn yn effeithio ar ei weithgareddau o ddydd i ddydd. Er enghraifft, symud o gwmpas gartref neu yn yr ysgol neu allu cymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden.

Unwaith y byddwn wedi cwblhau ein hasesiad, byddwn yn trafod y canlyniadau a'r cynllun triniaeth gyda chi. Byddwn yn gweld eich plentyn mor aml ag y credwn sy'n angenrheidiol, yn seiliedig ar ganfyddiadau eu hasesiad. Rydym fel arfer yn trin plant mewn clinig, ond efallai y bydd achlysuron pan fyddwn yn cynnal triniaeth yn yr ysgol neu gartref.

Yn dilyn asesiad, gallai'r cynllun gynnwys:

  • Rhyddhau'r plentyn gyda chyngor
  • Gweithgareddau i weithio arnyn nhw gartref
  • Bloc triniaeth sy’n cael ei ddarparu gan ffisiotherapydd neu un o'n Hymarferwyr Cynorthwyol
  • Atgyfeiriadau at wasanaethau eraill

Cysylltwch â ni

Ysbyty Brenhinol Morgannwg - Canolfan y Plant
01443 443206
Ynysmaerdy,
Llantrisant,
CF72 8XR
Clinig Carnegie - Ffisiotherapi Plant
01443 688361
Ffordd Brithweunydd,
Trealaw,
CF40 2UH
Ysbyty Cwm Cynon - Canolfan y Plant
01443 715300
Ffordd newydd,
Mountain Ash,
CF45 4DG
Ysbyty Tywysoges Cymru - Canolfan y Plant
01656 752237
Ffordd Coity
Pen-y-bont ar Ogwr
CF31 1RQ

Dolenni defnyddiol

Gwybodaeth i rieni a gofalwyr
Chwaraeon Anabledd Cymru

Dilynwch ni: