Neidio i'r prif gynnwy

Adsefydlu Fasgwlaidd

Mae Adsefydlu Fasgwlaidd yn wasanaeth penodol i helpu'r rhai sy'n cael diagnosis o Glefyd Rhydweli Ymylol (PAD) a Chloffni Ysbeidiol. Ein nod yw eich helpu i ddeall eich cyflwr a sut i'w reoli. Bwriad y Gwasanaeth yw eich cefnogi drwy gynnig addysg, asesiad corfforol arbenigol a'ch cefnogi i nodi pa feysydd iechyd yr hoffech chi eu gwella. Bydd y gefnogaeth a gewch chi’n cael ei anelu at eich nodau a'ch dewisiadau personol chi.

Beth i'w Ddisgwyl:

Os ydych wedi cael diagnosis o PAD, bydd y Tîm Fasgwlaidd yn trafod eich opsiynau rheoli gyda chi. Un o'r opsiynau hyn yw cyfeirio at y gwasanaeth Ffisiotherapi Adsefydlu Fasgwlaidd. Bydd Ffisiotherapydd arbenigol yn rhoi asesiad arbenigol i chi, a byddwch yn cael cyngor ynghylch Gweithgarwch Corfforol. Byddwn yn eich helpu i ddeall y rôl sydd gan weithgarwch corfforol wrth reoli eich PAD, ac yn eich helpu i ddeall y pethau y gallwch eu gwneud wrth reoli eich PAD yn y tymor hir.

Dolenni Mewnol:

Os oes angen cyngor arnoch ynglŷn â:

Dolenni Allanol:
Dilynwch ni: