Mae rhai fferyllwyr ar draws rhanbarth Cwm Taf Morgannwg yn cynnig y gwasanaeth Presgripsiynu Annibynnol Fferyllydd, sy'n golygu y gallai fferyllydd allu trin cyflyrau ychwanegol, y tu hwnt i gwmpas y Gwasanaeth Anhwylderau Cyffredin, heb yr angen i weld eich meddyg teulu.
Gall presgripsiynwyr annibynnol asesu cleifion â chyflyrau penodol, fel heintiau clust, mewn fferyllfa gymunedol. Bydd cleifion yn cael asesiad preifat mewn ystafell ymgynghori gyfrinachol, a gall y fferyllydd presgripsiynu feddyginiaeth angenrheidiol, os oes angen.
Gall y cyflyrau y gall fferyllwyr eu trin a'u presgripsiynu amrywio rhwng fferyllydd i fferyllydd ac maen nhw’n amodol ar argaeledd.
Os ydych chi'n meddwl bod angen i chi weld fferyllydd, defnyddiwch offeryn argaeledd GIG 111 Cymru, sydd i'w weld yma, neu cysylltwch â'ch fferyllfa gymunedol leol i weld a ydyn nhw’n gallu cynnig y gwasanaeth hwn cyn mynychu.