Neidio i'r prif gynnwy

Awdioleg i Oedolion

Rydyn ni’n darparu gwasanaeth diagnostig ac adsefydlu llawn i bobl gydag anhwylderau clywed, tinitws ac anhwylderau cydbwyso. 

MYND I APWYNTIADAU 

Pan fyddwch chi’n dod i'r adran, dilynwch y canllawiau hyn: 

  • Does dim angen masg wyneb mwyach oni bai bod gennych symptomau peswch/annwyd

  • Gadewch i'r dderbynfa wybod eich bod chi wedi cyrraedd 
  • PEIDIWCH â chyrraedd yn gynnar ar gyfer eich apwyntiad. Mae’n bosib y bydd gofyn i chi aros y tu allan tan 10 munud cyn amser eich apwyntiad 

Os bydd angen cyfieithydd neu ofalwr arnoch i ddod i'ch apwyntiad, cysylltwch â ni cyn eich apwyntiad. 

 

TRWSIO CYMHORTHION CLYW 

Cleifion Pen-y-bont ar Ogwr/Maesteg

Clfieion Dwyrain Cwm Taf 

O ddydd Mercher 7 Awst 2024 - mae sesiynau galw heibio i drwsio cymhorthion clyw yn ôl!

Does dim angen apwyntiad a bydd yn rhedeg bob dydd Mercher rhwng 9am-4pm yn Ysbyty Tywysoges Cymru

Ysbyty Brenhinol Morgannwg

sesiynau galw heibio i drwsio cymhorthion clyw /gwasanaethu ar gael bob dydd Gwener 9am - 12.30pm

Gallwch chi hefyd trefnu apwyntiadau trwsio/gwasanaethu ymlaen llaw, anfonwch e-bost neu ffoniwch eich gwasanaeth lleol i drefnu

 

Ysbyty'r Tywysog Siarl

Mae’n bosib trwsio cymhorthion clyw rhwng 9am - 5pm. I drefnu hyn, ffoniwch 01685 728130 (Merthyr Tudful) 

Ysbyty'r Tywysog Siarl – Adran Awdioleg

Yn sgil anghenion y gwasanaeth, mae'r Adran Awdioleg, oedd yn Ysbyty'r Tywysog Siarl gynt, wedi symud yn barhaol i Barc Iechyd Prifysgol Keir Hardie. Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, ffoniwch 01685 728130.

 

Ysbyty Cwm Rhondda

Sesiynau galw heibio i drwsio cymhorthion clyw /gwasanaethu ar gael bob dydd Llun 9am - 12.30pm

 

Parc Iechyd Prifysgol Keir Hardie

Sesiynau galw heibio i drwsio cymhorthion clyw/gwasanaethu ar gael bob dydd Iau 9am - 12.30pm

Gallwch chi hefyd bostio eich cymhorthion clyw atom ni i’w trwsio, ond dilynwch y cyngor isod: 

  • Sicrhewch fod y pecyn wedi ei selio'n dynn er mwyn atal unrhyw beth rhag mynd ar goll neu rhag cael ei ddifrodi 
  • Dylech chi allu postio eitem o’r maint a’r pwysau hynny yn iawn. Os oes unrhyw bryderon gyda chi, pwyswch y pecyn neu defnyddiwch dosbarthiad cofnodedig. 
  • Cofiwch nodi eich enw llawn, cyfeiriad a rhif ffôn, yn ogystal â chrynodeb o unrhyw ddiffygion gyda'r cymorth clyw 

Sylwch nad ydyn ni’n gyfrifol am unrhyw ddyfeisiau sy’n mynd ar goll trwy'r post. 

RHYBUDD DIOGELWCH 
Mae batris yn beryglus os ydynt yn cael eu llyncu. Efallai na fydd y difrod yn amlwg tan oriau'n ddiweddarach. 
Dylech chi ofyn am sylw meddygol ar unwaith os ydych chi'n amau bod rhywun wedi llyncu batri, hyd yn oed os bydd yr unigolyn hwnnw i’w weld yn iach. 
Sicrhewch fod eich batris a'ch cymorth clyw allan o gyrraedd plant ac oedolion sy’n agored i niwed. 
Peidiwch byth â storio batris gyda moddion. 
Gofynnwch am gymorth clyw y mae modd ei gloi os ydych chi'n gofalu am rywun sy'n agored i niwed.

I bwy mae’r gwasanaeth?

Mae ein gwasanaeth awdioleg yn cynnig:

  • Asesiadau cynhwysfawr o’r clyw a ffitio cymhorthion clyw i oedolion (18 oed neu hŷn)
  • Archwiliadau diagnostig cynhwysfawr ac asesiadau o gydbwysedd
  • Therapi’r clyw a thinitws i oedolion
  • Adsefydlu cydbwysedd (festibwlar) i oedolion
  • Cynnal a chadw a thrwsio cymhorthion clyw

All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Gall, ond bydd angen i feddyg atgyfeirio oedolion.

Beth i'w ddisgwyl

Pan fydd eich meddyg teulu neu arbenigwr ar y glust, y trwyn a’r gwddf yn eich atgyfeirio chi, byddwn ni’n ychwanegu eich enw at ein rhestr aros. Fyddwn ni ddim yn cysylltu â chi nes ein bod ni wedi trefnu apwyntiad ar eich cyfer chi. Fyddwch chi ddim yn aros mwy nag 14 o wythnosau am gymorth clyw ar ôl y dyddiad byddwn ni’n cael eich atgyfeiriad. Bydd yr amseroedd aros ar gyfer mathau eraill o apwyntiadau yn amrywio. Mae’r GIG yn darparu cymhorthion clyw y tu ôl i’r glust.

Manylion cyswllt

Ysbyty Brenhinol Morgannwg 
Ynysmaerdy 
Llantrisant 
Rhondda Cynon Taf 
CF72 8XR 
Rhif ffôn: 01443 443283 
E-bost: CTT_Audiology@wales.nhs.uk 

Awdioleg (Parth Q) 
Ysbyty Tywysoges Cymru 
Heol Coety 
Pen-y-bont ar Ogwr CF31 1RQ 
Llinell uniongyrchol 01656 752195 
Ffôn symudol / Neges destun: 07814458614 
e-bost Audiology.POWH@wales.nhs.uk 

Ysbyty'r Tywysog Siarl 
Y Gurnos 
Merthyr Tudful 
CF47 9DT 
Rhif ffôn: 01685 728130 
E-bost: CTT_Audiology@wales.nhs.uk 

Ysbyty Cwm Cynon 
Heol Newydd 
Aberpennar 
Rhondda Cynon Taf 
CF45 4BZ 
Rhif ffôn: 01685 728130 
E-bost: CTT_Audiology@wales.nhs.uk 

Ysbyty Cwm Rhondda 
Partridge Road 
Llwynypia 
CF40 2LU 
Rhif ffôn: 01443 443283 
E-bost: CTT_Audiology@wales.nhs.uk

 

Dolenni defnyddiol

www.actiononhearingloss.org.uk

www.c2hearonline.com

www.menieres.org.uk

 
Dilynwch ni: