Neidio i'r prif gynnwy

Awdioleg ar gyfer trwsio cymhorthion clyw

Os ydych chi'n cael anawsterau gyda'ch cymorth clyw, darllenwch y cyngor ar y dudalen hon.

RHYNUDD PWYSIG: NID YW ATGYWEIRIADAU GOLLWNG AR GAEL FEL ARFER MWYACH. MEWN SEFYLLFAOEDD EITHRIADOL, PAN NAD YW CLAF YN GALLU MYNYCHU CLINIGAU MYNEDIAD AGORED NEU APWYNTIAD WEDI'I DREFNU, GALLWN GYNNIG GWIRIAD SYLFAENOL O GYMORTH CLYW TRWY OLLWNG GWAITH ATGYWEIRIO. CYSYLLTWCH Â NI CYN DOD Â CHYMORTH CLYW I'R ADRAN.

Diweddariad Cleifion Awdioleg
Gellir cael gafael ar atgyweiriadau cymorth clyw trwy slotiau apwyntiad wedi'u trefnu, a sesiynau 'cerdded i mewn' ar draws Bwrdd Iechyd CTM.
Mae gwasanaeth o ansawdd yn golygu y gellir mynd i'r afael ag anghenion ein cleifion yn briodol. Rydym yn gyfyngedig gyda'r hyn y gallwn ei wneud heb glaf yn bresennol, a gall hyn achosi oedi mewn gofal.

Nid ydym bellach yn cynnig 'blwch gollwng' ar gyfer atgyweiriadau cymorth clyw am y rhesymau canlynol:
1. Efallai y bydd angen i ni fynd i'r afael â materion ynghylch cysur cymorth clyw neu ansawdd sain.
2. Efallai y bydd angen i ni wirio clustiau ar gyfer cwyr a/neu faterion eraill.
3. Mae angen i ni drafod y camau nesaf neu atgyfeiriad ymlaen gyda chaniatâd ein cleifion.
4. Gellir mynd â'ch cymhorthion clyw adref ar unwaith ar ôl eu hatgyweirio, yn hytrach na bod hebddyn nhw am beth amser.

Cyngor cyffredinol i ddatrys problemau a chynnal a chadw eich Cymorth Clyw

Os nad ydy eich cymorth clyw’n gweithio'n iawn neu os ydych chi'n cael trafferth clywed, dilynwch y camau isod:

  • Ceisiwch roi batri newydd i mewn a sicrhau ei fod i mewn yn gywir – gyda'r sticer wedi ei dynnu oddi arno a gydag ochr wastad y batri yn wynebu tuag atoch chi.
  • Sicrhewch fod cwyr ddim yn rhwystro’r tiwb – efallai y bydd angen i chi newid y tiwb neu lanhau'r cwyr allan o'r tiwb. Os oes tiwb tenau gyda chi, gallwch chi ddefnyddio weiren lanhau i gael gwared ar y cwyr. Ewch i’r adran 'Sut i lanhau eich cymorth clyw' ar y dudalen hon am ragor o gyngor.
  • Gwiriwch am leithder yn y tiwb allai fod yn rhwystrau'r sain. Newidiwch y tiwb neu adael i sychu dros nos y tu allan i'r cwdyn du. Os ydych chi'n defnyddio mowld clust ac mae hyn yn digwydd yn aml, gallwch chi naill ai ofyn am diwb sy’n cadw’n sych neu brynu pyffer aer ar gyfer eich cymorth clyw i chwythu aer i mewn i'r tiwb.
  • Gwiriwch fod y tiwb ddim wedi ei droi, ei gywasgu na'i hollti. Os felly, newidiwch y tiwb.
  • Sicrhewch fod y sain ar yr uchder cywir.
  • Sicrhewch eich bod ar y rhaglen gywir neu’r gosodiad cywir – diffoddwch y cymorth a’i droi yn ôl ymlaen, neu ceisiwch wasgu'r botwm.
  • Gwiriwch nad oes unrhyw beth yn rhwystro'r meicroffonau ar frig eich cymhorthion clyw – defnyddiwch y brwsh bach du i gael gwared ar unrhyw falurion neu gŵyr o’r meicroffonau.

Os ydy'r cymorth clyw yn chwibanu neu’n gwichian, gwiriwch y canlynol:

  • Ydy’r ddyfais wedi ei rhoi yn eich clust yn gywir? 
  • Oes rhywbeth yn rhwystro’r meicroffonau neu'r tiwb? (Gwiriwch uchod am gymorth) 
  • Sicrhewch fod dim gormod o gŵyr yn eich clustiau – ewch at eich meddyg teulu i wirio hyn

Bydd angen i chi weld eich awdiolegydd os ydy’r mowld clust wedi hollti, yn anghyfforddus neu os nad yw'n ffitio'n dda, neu os ydych chi'n cael unrhyw broblemau eraill. Os oes rhagor ymholiadau gyda chi ynglŷn â datrys problemau, cliciwch ar y dolenni isod. 

Dogfennau cymorth Danalogic ynglŷn â chymhorthion clyw: https://www.danalogic.co.uk/for-patients/danalogic-ambio/patient-sheets#resources

Fideos hunan-gymorth C2 (Hearing Well Together) ynghylch cymhorthion clyw: https://c2hearonline.com/index.html

Fideos gan GN Resound i helpu i ddatrys problemau gyda chymhorthion clyw: https://www.youtube.com/channel/UCkMEkU30ucHqx_l0pdZ6Gjw

Dilynwch ni: