Neidio i'r prif gynnwy

Brechlyn ffliw a phigiad hydref COVID-19

Bydd y broses o gyflwyno’r brechlyn COVID-19 ar gyfer grwpiau cymwys yn dechrau ym mis Hydref. 

Brechu ffliw

  • Plant sy’n ddwy a thair oed ar 31 Awst 2024  

  • Plant yn yr ysgol gynradd o'r dosbarth derbyn i flwyddyn 6 (cynhwysol)   

  • Plant yn yr ysgol uwchradd o flwyddyn 7 i flwyddyn 11 (cynhwysol)    

  • Pobl rhwng chwe mis a 64 oed mewn grwpiau risg clinigol    

  • Pobl 65 oed a hŷn (oed ar 31 Mawrth 2024)    

  • Menywod beichiog   

  • Gofalwyr 16 oed a hŷn  

  • Pobl rhwng 6 mis a 65 oed sy'n byw gyda rhywun â system imiwnedd wan    

  • Pobl ag anabledd dysgu   

  • Gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen   

  • Pob aelod o staff sy'n gweithio mewn cartrefi gofal sydd â chyswllt rheolaidd â chleientiaid 

Bydd y brechlyn ffliw drwy chwistrell drwynol i blant a phobl ifanc yn dechrau ym mis Medi. 

Bydd cyflwyno'r brechlyn ffliw i oedolion yn dechrau ym mis Hydref. 

Brechu COVID-19 

  • Pobl rhwng 6 mis a 64 oed sydd â chyflwr iechyd hirdymor (sy’n cynnwys menywod beichiog a phobl â system imiwnedd wan) 

  • Preswylwyr mewn cartrefi gofal i oedolion hŷn 

  • Pobl 65 oed a hŷn (oed ar 31 Mawrth 2025) 

  • Gofalwyr di-dâl 

  • Gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen 

  • Staff sy'n gweithio mewn cartrefi gofal i oedolion hŷn 

Bydd y broses o gyflwyno’r brechlyn COVID-19 ar gyfer grwpiau cymwys yn dechrau ym mis Hydref. 

Dilynwch ni: