Neidio i'r prif gynnwy

Helpwch Ni I'ch Helpu Chi

Mae llawer o ffyrdd o gael gofal iechyd sydd ddim yn frys ar draws Cwm Taf Morgannwg heb orfod trefnu apwyntiad i weld eich meddyg teulu. 

Os bydd angen i chi gael gofal iechyd brys sydd ddim yn argyfwng neu'n gyflwr sy'n peryglu bywyd pan fydd eich meddygfa ar gau, gallwch chi gysylltu â'r GIG naill ai ar-lein neu drwy ffonio 111.   

Os oes argyfwng neu achos sy’n peryglu bywyd, ffoniwch 999 neu ewch i'r adran argyfwng.  

GIG 111 Cymru

Os ydych chi neu rywun rydych chi'n gofalu amdano’n teimlo'n sâl, dylech chi ddefnyddio ein gwirwyr symptomau ar-lein yn gyntaf. Bydd hyn yn eich helpu chi i ddewis beth i'w wneud neu pwy i'w weld nesaf os oes problemau iechyd cyffredin gyda chi, fel brech, poen stumog, poen cefn, peswch, pen tost, chwydu a’r dolur rhydd, neu os ydych chi'n teimlo'n sâl yn gyffredinol. 

Cynllun mân anhwylderau

Mae fferyllfeydd gerllaw heb fod angen i chi drefnu apwyntiad. Maen nhw’n cynnig cyngor a moddion dros y cownter ar gyfer amrywiaeth o fân anhwylderau fel peswch, annwyd, dolur gwddf a phoenau. 

Hunanofal

Hunanofal yw un o'r pethau pwysicaf gallwn ni ei wneud i ofalu am ein hiechyd. Mae modd trin llawer o gyflyrau ac anafiadau yn y cartref. Mae gwefan GIG 111 Cymru yn cynnig cyngor a gwybodaeth ynglŷn â sut i gadw'n iach.  

Gofal Llygaid Cymru

Yn anaml y bydd eich llygaid yn brifo pan fydd rhywbeth o'i le arnyn nhw, felly mae'n bwysig cael prawf llygaid yn rheolaidd i wneud yn siŵr eu bod nhw’n iach. 

Mae ymarferwyr gofal llygaid sydd wedi cael hyfforddiant arbennig (optometryddion ac optegwyr) ar y rhan fwyaf o strydoedd mawr ledled Cymru yn gallu darparu’r gwasanaeth hwn gan y GIG yn rhad ac am ddim yn eich cymuned. 

Dilynwch ni: