Neidio i'r prif gynnwy

GIG 111 Cymru

Cael mynediad at ofal iechyd brys pan nad yw'ch practis meddyg teulu ar agor.

Os oes angen i chi gael mynediad at ofal iechyd brys nad yw'n gyflwr argyfwng neu sy'n peryglu bywyd pan nad yw'ch practis meddyg teulu ar agor, gallwch gysylltu â GIG 111 Cymru naill ai ar-lein neu drwy ffonio 111.

Mae gwefan GIG 111 Cymru yn cynnwys mwy na 65 o wirwyr symptomau a gwybodaeth am wasanaethau lleol, a dylai fod yn borth galw cyntaf i bawb cyn gwneud galwad ffôn. Ond os yw eich pryder iechyd yn frys, gall trinwyr ffonau ar y llinell gymorth 111 hefyd eich helpu i gael y driniaeth gywir ar yr adeg iawn ac yn y lle iawn.

Am gyngor ar lein, gan gynnwys y gwiriwr symptomau a gwasanaethau lleol, ewch i https://111.wales.nhs.uk/default.aspx?locale=cy

Gwiriwr symptomau ar-lein

I gael cymorth iechyd meddwl ar frys ffoniwch 111 a phwyso RHIF 2

Mae'r gwasanaeth ar gael i bobl o bob oed, 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos ym mhob rhan o Gymru, i sicrhau bod pobl sydd angen cymorth yn gallu cael gafael arno’n gyflym pan fydd ei angen arnynt fwyaf.

Os ydych chi eisiau siarad â rhywun ar frys am eich iechyd meddwl, neu os ydych chi'n poeni am aelod o'r teulu, ffoniwch GIG 111 Cymru a dewis opsiwn 2 i gael eich cysylltu’n uniongyrchol â gweithiwr iechyd meddwl professiynol yn eich ardal.

Gallwch ffonio am ddim o linell ffôn neu ffôn symudol, hyd yn oed os nad oes gennych gredyd ar ôl.

Am gyngor brys 24/7

Ffoniwch 111 os oes angen sylw brys arnoch chi ac os nad yw’r broblem yn bygwth bywyd. Mae hyn hefyd yn cynnwys yr adegau hynny pan fo angen sylw meddygol brys arnoch chi gan eich meddyg teulu y tu allan i’w oriau agor arferol, ac allwch chi ddim aros tan y diwrnod gwaith nesaf.

Bydd triniwr galwadau sydd wedi cael ei hyfforddi yn ateb y ffôn, a bydd yn cymryd ychydig o fanylion gennych chi. Byddwch chi naill ai’n cael cyngor am sut i helpu eich hun, yn cael eich anfon ymlaen at wasanaeth mwy priodol neu’n cael cynnig apwyntiad yn un o’n canolfannau gofal sylfaenol. Os bydd y meddyg teulu yn credu bod angen, mae’n bosibl y bydd ymweliad â’r cartref yn cael ei drefnu.

Uned Mân Anafiadau

Gall oedolion a phlant dros un oed gyda'r cyflyrau canlynol ymweld â'n Uned Mân Anafiadau (MIU) i gael asesu a thriniaeth: 

Sylwch: dim ond anafiadau a ddigwyddodd o fewn y pedair wythnos diwethaf y gallwn eu hasesu a'u trin. Os digwyddodd eich anaf fwy na 4 wythnos yn ôl, bydd angen i chi gysylltu â'ch meddyg teulu.

  • Anafiadau i’r breichiau neu’r coesau a mân anafiadau i’r pen, y wyneb, y gwddf, y cefn a’r frest 
  • Brathiadau gan bobl, anifail neu bryfed 
  • Mân losgiadau neu sgaldiadau 
  • Clwyfau neu grafiadau 
  • Corffynnau estron yn y clustiau, y trwyn a’r feinwe feddal  

Oriau agor yr Uned Mân Anafiadau

Gallwch gerdded i mewn ar unrhyw adeg yn ystod oriau agor.

Ysbyty Cwm Rhondda

Dydd Llun i Ddydd Gwener

8.30am i 4.30pm

Ar gau ar benwythnosau a gwyliau banc

 

Ysbyty Cwm Cynon

Dydd Llun i Ddydd Gwener

9am i 5pm

Ar gau ar benwythnosau a gwyliau banc

 

Adran Argyfwng Ysbyty Brenhinol Morgannwg

Dydd Llun i Ddydd Sul

8am – 8.30pm

Ar agor ar wyliau banc

 

Y Gwasanaeth Deintyddiaeth
Os oes angen deintydd arnoch tu allan i oriau, ffoniwch: 0300 123 5060.

Ffonio 999
Mewn argyfwng sy’n bygwth bywyd, e.e. trafferth yn anadlu, trawiad ar y galon posibl, colli llawer iawn o waed, anaf difrifol, llosgiadau drwg iawn, colli ymwybyddiaeth – ffoniwch 999.

Gwasanaeth 111 i bobl sydd ddim yn gallu siarad na chlywed ar y ffôn.

Helpwch Ni I'ch Helpu Chi
Dilynwch ni: