Neidio i'r prif gynnwy

Templedi Dweud Eich Dweud

Rydym eisiau clywed gan blant a phobl ifanc a theuluoedd...

  • Sut hoffech chi gael eich trin gennym a pha fath o ofal yr hoffech chi ei gael?
  • Sut gallwn ni wella ein gwasanaethau ar eich cyfer chi? 
  • Sut gallwn ni sicrhau bod plant a phobl ifanc yn chwarae rhan fwy gweithredol yn eu gofal? 
  • Pa hawliau sy'n sefyll allan i chi a pham?

Rydyn ni wedi creu'r templed hawdd hwn i chi ei lawrlwytho a'i ddychwelyd atom.   

(Sylwer: bydd eich templed yn cael ei ddefnyddio ar wefan ein Siarter ac yn cael ei rannu hefyd ar dudalennau cyfryngau cymdeithasol CTM felly dylech ond anfon llun a sylwadau atom os ydych chi’n hapus i ni eu defnyddio'n gyhoeddus. Os ydych chi’n eu hanfon ar ran pobl eraill, sicrhewch eich bod yn cael caniatâd ganddyn nhw bob amser). 

Sut i gyflwyno

  • Lawrlwythwch y templed
  • Defnyddiwch y templed i rannu pa hawl sydd bwysicaf i chi a pham (gallwch chi anfon cynifer o dempledi atom ag y dymunwch!)
  • E-bostiwch eich templed wedi'i gwblhau i:  CTM.OurHealthOurFuture@wales.nhs.uk
  • Methu lawrlwytho'r templed? Peidiwch â phoeni – gallwn ni ei gwblhau ar eich rhan. Anfonwch eich sylwadau a'ch llun i'r cyfeiriad e-bost uchod (gan roi’r teitl Adborth ar Siarter Plant CTM). Peidiwch ag anghofio sôn am ba 'Hawl plant' rydych chi'n cyfeirio ati yn eich neges. 
Dilynwch ni: