Neidio i'r prif gynnwy

Siarter Plant CTM

Rydym yn angerddol dros gadw ein plant a phobl ifanc Cwm Taf Morgannwg yn iach a hapus.

Ar Ddiwrnod Byd-eang y Plant (20 Tachwedd 2022), fe wnaethom lansio 10 hawl newydd, i roi gwybod i blant a phobl ifanc sut y gallant ddisgwyl cael ein trin a chael gofal gennym ni yn y ffordd y maent yn ei haeddu.

Mae'r hawliau, a adwaenir fel ein Siarter Plant, yn seiliedig ar egwyddorion Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP). Mae’r cytundeb rhyngwladol hwn yn nodi hawliau’r plentyn ac fe’i defnyddir ar gyfer datblygu polisi i gefnogi plant ledled y byd.

Mae ein Siarter ar gyfer pob plentyn (0-18 oed) sy’n byw yng Nghwm Taf Morgannwg, ni waeth a ydynt yn byw gyda’u rhieni biolegol, mewn gofal maeth, yn byw’n annibynnol neu mewn unrhyw sefyllfa arall.

 

Dilynwch ni: