Mae bwyta'n iach yn rhywbeth syml y gallwn ni i gyd ei wneud i geisio cadw ein hunain yn iach yn y cyfamser rhwng mynd yn sâl a chael triniaeth. Dyma rai awgrymiadau cyffredinol ar gyfer bwyta'n dda:
Dylai bwydydd startshlyd fel bara, pasta, reis a thatws fod yn tua thraean o'n diet. Ar gyfer oedolion a phlant hŷn dewiswch fathau o rawn cyflawn neu wenith cyflawn lle bo modd.
Cynhwyswch ffrwythau a llysiau ym mhob pryd yn ogystal â byrbrydau, gan anelu at amrywiaeth ac o leiaf 5 dogn y dydd.
Anelwch at fwyta digon o brotein bob dydd, gan gynnwys corbys (ffa, ffacbys, pys), cnau, Quorn, pysgod, wyau a chig.
Cwtogwch ar fraster dirlawn trwy fwyta llai o gacennau, selsig, hufen, pasteiod a thorri braster gweladwy o gig. Hefyd ceisiwch leihau bwydydd sy'n uchel mewn siwgr neu halen fel bisgedi, teisennau, grawnfwydydd llawn siwgr, a bwydydd wedi'u prosesu'n helaeth.
Dewiswch fyrbrydau iachach fel iogwrt braster isel/siwg iselr, ffyn llysiau gyda hwmws neu dip salsa, cacennau reis gyda chaws hufen braster isel, cacennau ceirch, popcorn heb halen neu sleisen o dorth ffrwythau wedi’i thostio.
Yfwch ddigon o ddŵr trwy yfed 6-8 gwydraid o ddŵr neu ddewisiadau amgen di-siwgr trwy gydol y dydd. Dŵr plaen a llaeth yw’r unig ddiodydd sydd eu hangen ar blant.
Edrychwch ar labeli goleuadau traffig ar becynnau bwyd a diod. Bydd cael cynhyrchion gwyrdd ac ambr yn bennaf yn eich helpu i gael diet iachach.
Anelwch at gael patrwm bwyta rheolaidd lle bo modd. Monitrwch faint o fwyd a diod rydych chi’n eu bwyta ac yn yfed drwy nodi eich prydau, byrbrydau a diodydd mewn dyddiadur neu drwy ddefnyddio ap, os yw hyn yn ddefnyddiol i chi.
https://www.nhs.uk/better-health/lose-weight/- Cynllun pwysau iach am ddim gan y GIG i’ch helpu i feithrin arferion bwyta iachach, bod yn fwy egnïol a dod yn bwysau iach
Mae https://sgiliaumaethamoes.com/amdanom-ni/ yn helpu grwpiau o bobl i gynnal neu wella eu hiechyd trwy beth mae’n ei fwyta a'i yfed ac mae ganddo wybodaeth am wasanaethau lleol i chi.